Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Llên Gwerin Tcgcingl." Amlinelliad o anerchiad draddodwyd yng nghyfarfod Cymrodorion Prestatyn, Ionawr 28ain, 1910, gan y Parch. BEN WILLIAMS, Prestatyn. RHAGYMADRODD. (a) " Ysíyr Llên Gwerin." (b) Perthyn i bob gwlad ac ardal eu Llên Gwerin. Gwaith anodd yw olrbain banes y cyí'ryw i'w tharddiad, ond medr y craff a'r cyíarwydd weied í'od rbyw debygolrwydd rhyfedd yn bod cydrhwng traddodiadau, chwedlau, ac arfenon y gwahanoi wledydd a'r ardaloedd, yr hyn a brawf eu bod í'el yr hii ddynol, yn perthyn yn agos iawn i'w gilydd, ac yn hannu o'r un cyff, ond eu bod yn nhreigliad y canrifoedd, wedi newid eu pryd a'u gwedd, a'u gwisgoedd, er mwyn cyfaddasu eu hunain i'r amgylchoedd lle y trigant. Nid oes odid yng Nghymru, na ffynnon na ffrwcl nac afon, mynydd na brjn nac ogof, iiwyn na llyn na llan, heb draddodiadau a chwedlau dyddoroi yn perthyn iddynt ; a phe bai gan y rbai byn dafodau, adroddent bethau rhyfedd ac anhygoel am yr Ysbrydion, y Tyiwyth Teg, y Dewiniaid, Gwrach y Rhibyn, Aderyn y Corff, a lliaws mawr o bethau cyffelyb, fuont yn chwareu eu castiau, ac yu cyflawni eu gwrhydri yn oesau tywyil '■ Cymru Fu." Ond gan na fedrant hwy ymadrodd, a bod liais ein henafiaid wedi distewi yn y gtyn, cyn i'r byd werthfawrogi eu liên, a'i choínodi, rhaid yw ymfoddloni ar y traddodiadau sydd wedi cerdded i lawr y canrifoedd, a derbyn y gwir a'r gau yn gymlith â'u gilydd, a'u chwynnu goreu geliir, i chwiiio am y perlau teg sy'n drysoredig ynddynt. (c) Y tir a gerddwn i chwilio am lén ein benafiaid yw y rhanbarth hwnnw a eiwid gynt Tegeingl, seí' heu gantretì Pres- tatyn, Ouieshill, a lihuddlan. I. Ofergoelion : Gellir dosbarthu Ofergoelioii i dri dos- barth o ieiaf, sef, JJewiuiaeth, íáwyngyfaredd, ac Ymnthiad Ysbrydion. (a) Dewiniaid oeddynt y dosbarth hwnnw oedd yn cymeryd arnynt ragfynegi digwyddiadau, adrodd tynged-feunau, a chaei allan ddirgeledigaethau. Amlwg yw oddiwrth gân o eiddu Ieuan Gethin, o Gaerwys, yr hon a aufonwyd ganddu iEistedd- fod Trallwm, yn 1824, fod ymghynghori â dewiniaid yn bctü cyffredin yn ei ddyddiau eí', yn Nhegeiugl. (Ceir y gâu yn yr " Adolygydd." Cyf. I. tud. 129^. Oddeutu tri ugain mlynedd yn ol yr oedd dewiues o'r enw Miss Lloyd yn trigiannu yn Ninbych, a thystia hanes i'ud llawer o gyrchu ati o'r rhanbarth hwu. A barnu oddivvrth uu o Interliwdiau " Twm o'r Nant," bu Dmbyeh yn lle enwog ani ei ddewinesau. Ond prif ddewin Tegeiugl oedd lìubin üdu. Ganwyd ef ynrbywie ar iethrau Moel Hiraddug, ger Dyserth, ac yr oedd yn frawd i Daíýdd Ddu. hen orfeinad Pabaidd Tre- meirchion. (Am ei banes gwel " Cyruiu Fu " tud. 2ö6.) (/>) Swyngyfaredd yw offrymu i ffynbunnau — rheibiu neu 'witchio' pobl. Mae'r oferguelion hyn yn ddiderfyn yn Nhegeiugl. Cadarnheir gan ddynion cyfrifol fod y icitc/i wedi gwneyd pethau anhygoel ym Mhiestatyu a'r Grunant, o fewn cyicli y deugain mlynedd diweddaf ! (c) Ymrithiad Ysbrydiun: Bu ymrithiad ysybrydion yn gredo y liiaws yn Nhegeingl. Hyd y gwelaí' fi, prif yspryd Tegeingl oedd " Llwyd y Cap." Ymrithiai hwn weithiau yng nghymydogaeth Dyfî'ryn Clwyd, gefn dydd guleu, ar í'arch yn cael ei ddilyn gan haid o gwn hela, a phryd arall, clywid ei lais yn ysgrechian gefn trymedd nos, yn yr awyr, nes bod yn ddychryn i'r holi wlad. Heíÿd ceir ystonau dyddorul am yspryd Tŷ Mawr, Prestatyn; yspryd y Cae Du, Prestatyn; ysbryd Lady Wen Trecasteil, Dyserth, ác. II. Argoelion: Argoei yw arwydd neu fiaen-arwydd o ddrwg neu dda sydd i ddigwydd i berson. Ehoddai yr ben bobl bwys mawr ar argoelion. Rhoddid arwyddion o ddrwg neu dda iddynt, naill ai gan anifaii, aderyn, neu freuddwyd. Erys llawer o'r argoelion hyn ar gof gwerin Tegeingl. III. Chwedlonueth : Nid oes brinder chwediau dyddoroì ac anhygoel yn Nhegeingl. Ni wnawn sylw ond o dair o honynt, sef:— (a) Chwedi Ffynnon Gwenffrewi. (b) Chwedl " Ifan y Dyrnwr Mawr " am y modd y dyg- wyd rhes-fynyddau Dyffryn Ciwyd ar longau o'r Eidal, ac yr hyrddiwyd hwy i'w lie o'r môr gyferbyn â Dyserth. (Am yr hanes, gwel " Y Geninen " 1886, tud. 283.) (e) Chwedl y Tylwyth Teg ym Mhryn Eithin, Prestatyn, sef, " Gwlith gwenith y bore." IV. Arferion : Tystia hanes fod yr aríerion canlynol yn ffynnu yma gynt : Hel Calenig, Casglu Ysgub y Gioch, Casglu \Vyau y Pasg, yr Wylnos, y Piygam, ynghyda liiaws mawr o arterion eraill oedd yn bod gynt yn y Dywysogaeth. Dyddid arferol o rannu cwrw a chacen mewn claddedigaethau yma hefyd. Ceir prawfion y defuyddid cioch-law yn dra bore mewn cladd- edigaethau yma hef'yd, uherwydd ceir un o'r clychau hyn yn Eglwys y Piwyf, Gwaenysgor. Dywedir mai hon yw y gioch- law henaí' yn Esgobaetn Lianelwy. Peth diweddar yw claddu y meirw mewn eirch. Lliau neu gynías roddid am goríì', mor ddiweddar a chauoi 17eg ganrif, megis ag J dywed Dr. Sion Cent. (1400) yn \ llinellau hyn— ' ■ Ac yna yn ei gynías l'r ty o glai ar to glas, A gwely o hyd gwiaien, A chau'i borth uwch ei ben."' —(Cefn Coch MSS.) Yr oedd gan yr hen bobl wrthwynebiad cryf i ddefuyddio eirch ar y cyntaf, fei y deugys yr engiyu hwn o waith Owain Gruí'- íydd u Llanystumdwy :— " 0 ffei! gwaith liiaidd o'i go'—wneyd eirch, Nid archiad Duw mo"no ; Mewn llian, graian, a gro liu gorff lesu'n gorphwyso." Pasiwyd Deddf Seneddoi yn y fiwyddyn 1699 yn gwahardd i ueb gladdu corff mewn lliau neu gynfas. Gofynai y ddeddf i'r eorff gael ei ddodi mewn gwlan, a'r ddiryw am ei hanwybyddu oedd Lô. A thystia hanes fod ^wrthwynebiad cryf i'r ddeddf bon yn Nhegeingl. Dywed y Pareh. T. Fisber, B.D., "It is rather curious to noîe, in face of what we have gone through in Wales t>ince the passing of the Education Act of 1902, that tüere was iiviug in the township of Yaynol, in the parish of St. Asaph, a person actuaih* beariug the uauie * David Lloyd George,' (died Ì734), who, like his distinguished came- sake, was something of a ' Passíve Resister,' for there is no record cif an affidavií having been broaght to show that he had been buried in ' süeep wooli onely,' acconìitig tu tbe Act." (" Arciueoiogia Cambrensis," 19u6, page 141.) Gwneid cytundebau gynt wrth y Croesau, ac y mao Tegeingl yn frith o haoes y cyfryw groesau. Yr enwucaf o'r cruesau uedd yi nu a geid yn Rhuddian. rfafai ar y fan lle saií' Ty'nygroes yn awr. Yr oedd yu hen ddefod er's oesau i gyf- logi medelwyr i'r cynhauaf wrtb y groes hon, ac ar y Sabboth y gwneid hynny, a chymerid mautns ar y cynuliiai pobloedd a ddeleut yno i gyimal fîeiriau. Ond un prydnawn Sabbotb. yn necbreu y ganrii' ddiweddaf, daeth y Parch. John Elias, o Fôn. yuo ì bregethu. F.sgynodd i beu y garreg-farch sydd i'w gweled iìaeu y New Inn. Rhoddodd hyn dertyn bythol ar y iìeiriau cyÜogi yn y lle ar ddydd yr Argiwydd. Lìiosog oedd yr arferiou ynglyn â phriodasau yn Nhegeingi hefyd. Diau yr yimldengys y chwedlau a'r traddodiadau a'r otergoeliaeth a'r arferiou, y rhoddai ein henafiaid gymaint pwys arnynt, yn bethau gvvrachaidd, plentyuaidd, a phaganaidd i ni s}^dd wedi eiu dwyn o dan ddylauwad gwareiddiad a diwylliant a'r Efengyl. Ond, er hynny, nid pethau i'w dirmygu a'u dibrisio nio honynt, oherwydd y mae gwerth cynhenid yn per- thyn iddynt: y maent fel drych yu adlewyrchu nodweddion bywyd a theithi meddwl yr oesau a aethant heibio. Ac nis gall neb a fynno wybod hanes gwlad neu ardal yn gywir, forddio anwybyddu pennod ei Llèn Gwerin.