Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR AMAETHYDD. RHIF. 8. SADWRN, AWST 9, 1845. AM LUCERNE A PHAROTOAD Y TIR. Gan J. Towers. Mwyafa welwn o lucerne, mwyaf o achos sy genyrn i laẃenhau. Y mae yn gwneyd i fyny y prif ymborth yn Thanet, a chymydogaethau sialcaidd o'r fath, oblegyd ni ffyna glaswellt dolydd ar y fath dir i berffeithrwydd. Y tir sydd ar y planhigyn ei eisiau yw pridd-glai bras, meddal, heb fod yn drwm, ond yn seimlyd, yn gorphwys ar glogwyn sialc, yn y gwaeloil islaw yr arwyneb ; ond tyf ìucerne yn dda mewn pridd gardd da, a deil mewn calon am wyth neu ddeng mlynedd, gan ildio, mewn tymhoiau cawodog, bump, chwech, neu saith o doriadau bob tymhor, a golygu ì'r arfer fí'ol a diad-daliad o adael y llysiau i sefyll hyd nes y blodeuont, gael ei fwrw heibio. Yr wyf yn cynyg sylwi ar ddiwylliant ymarferol lucerne, wedi cymeryd arnaf brofi ei fod yn han- fodol yn blanhigyn calchaidd, fod ei ludw yn cynwys phosphate oflime, 13 yn y cant; sialc, neu ddefnydd calchaidd, 50 yn y cant. Os nad ydyw hyn ond yn unig dynesiadau, fe'n dysgir drwyddynt fod calch, neu ei gyduniadau, yn ffurfio y gwrtaith neillduol neu briodol; a chan hyny, nid oes ond ychydig o anhawsder i sicr- hau, yn unrhyw sir ganoldirog ar ochr dde Yorkshire, dal da am lafur a gofal cymhedrol. Er eglurhad ; tybiwn fod hen borfa wedi ei haflanhau â crowfoot y ddol (lìanunculus acris), dant y llew, &c, yr hwn y bydd eisiau ei dori i fyny. Rhaid i'r tir gael ei lanhau, a'r ffordd oreu i wneyd hyn fydd drwy wthio a llosgi (paring and bu^rning), drwy yr hyn y dinystrir myrddiyuau o'r wireworm, ac y cynyrchir alhali a defnyddiau calchaidd yn ffurf lludw. Dylid chwalu y lludw hwn dros wyneb y ddaiar a biliwyd, ac yua dylai y ddaiar gael ei thrensio ddau baliad rhaw, neu oddeutu deunaw modfedd o ddyfnder. Ýn ngwaelod pob trens, ac wedi hyny dros y paliad rhaw cyntaf o ddaiar, dylid rhoi dwy haen neu dairo dail heolydd, neu spit dung, neu o cloacene paroto- edig. Wrth cloacene parotoedig, yr wyf yn meddwl cynhwysiad ty bach, wedi ei gymysgu gyda chymaint ddwywaith neu dair o briddglai, neu bridd da, yr hwn fyddo wedi cael ei daenellu â dau neu dri galwyn o sulphuric acid datodadwy i sicrhau yr ummonia. Gwna y plith-wrtaith (compost) hvvn, wedi sefyll chwe' mis, a'i droi unwaith a'i gymysgu, wrtaith phosphated rhagorol. Wedi darfod trensio, trwsiad arall o esgyrn wedi eu toddi a ddylid roi iddo fel y canlyn :—I haner acar, cymerer un bwsiel a haner o lwch esgyrn gwirioneddol, un ran o dair o'i bwysau o con- centrated sulphuric acid, a thair gwailh ei bwysau o ddwfr. Rhowch y diweddaf mewn twb agored, tywalltwch y sulphwic acid iddo yn raddol, gan ei gynhyrfu gyda darn o bren, yna ychwanegwch y llwch esgyrn. Cynhyrfwch o am beth amser, nes yr ymddengys y cymysgedd wedi myned"yn unffurf, ac yna bydd iddo gynwys sulphate oflime a phosphate oflime, gyda gormodedd o pìwspho- ric acìd. Rhoddwch ynddo gymaint o bridd sych tywodog, blawd lhf, neu ludw glo pur, ag a'i dygo o ran ei dymheredd yn debyg i bridd llaith gardd ; yna gosodwch o yn dyrau ar y pridd, a phan fydd yn lled sych, chwalwch o dros y tir; wedi hyny fforchiwch yr arwyneb, a hauwch yr had fel yr eloch yn mlaen. Ond os bydd y tir yn aflan gan wraidd chwyn, bydd yn well cnydio y cwbl gyda phytatws yn y gwanwyn cyntaf, gan adael heibioy trwsiad esgyrn, a llyfnu neu gnbynio y tir unwaith neu ddwy ; ar ol hyny, bydd i'r priddo a ofynir yn ystod tyfiant y pytatws, a chodiad y cnwd, lanhau a pharotoi y tir yn lled dda, yn enwedig os gosodir o i fyny yn drumiau uchel yn ystod y gauaf. Y mae had lucerne yn costio oddeutu ls. neu îs. 3c. y pwys. Bum yn ei wlychu mewn nítro- Mtlphates er treio ei effaith, a hauais hefyd yr had anmharotoedig yn yr un dydd, gan ddefnyddio gwres celfyddydol; a blaendarddai pob un o honynt yn gyffelyb. Dylid profi yr holl had porfa feHy, oherwydd fod cymaint o dwyîl; ond os ceir fod y sample yn dda, gwna pump neu chwe' phwys hau haner acar, a golygu fod y rhesi vn 12 neu 14 modfedd oddiwrth eu gilydd ; ond y mae r»ai yn son am 8 neu 9 modfedd. Ni ddylai y driliau fod yn ddyfnach na modfedd o ddyfnder, 3c ni ddylai yr hadau fod yn rhy dewion. Y tymhor goreu yw cánol Ebrill, ond gwna Mehefin, os bydd yn gawodog, y troyn dda. Y mae y blaendarddiad yn gyflym ; a phan fydd y planhigion