Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR AMAETHYDD. RHIF. 7. SADWRN, GORPHENAF 5, 1845. . AR WRTEITHIAU. Allan o Draethuwd ar Amaethyddiaeth a Diwylliani. Gan Jarnes Jackson, Penicuih. Trwy gnydau olynol y mae y tiroedd goreu yn treulio eu cynheddfau ffiwythlonaidd, tra y mae tiroedd salw yn gofyn gweinyddiad rhyw rinweddau cyn y rlioddant iawn ad-daliad i'r llafurwr. Maeyn ddiamheuol fod mewn rhai manau o'r byd diroedd sydd yn naturiol mor gynyrchiol, fel er eu defnyddio at gnydau o yd am ugain mlynedd ac ychwaneg, na ddangosant ddim arwyddion o wanychiad ; eto rhaid i'r rhai hyn mewn amser gaet eu treulio ; am hyoy,yn mhob amgylchiadau y mae gwrteithiau yn galw am ystyriaeth yr amaethwr. Yn ein gwlad ni y m; ent o'r pwys mwyaf. Y mae gwrteithiau o ddau fath, a chan bob un ei natur wahanol, ac yn cyflawni gwahanol swyddau yn y gwairh o hydyfiant. Y maey cyntaf o'r rhai hyn yn cynwys pob sylwedd anifeilaidd a llys- ieuawl dadgyfànsodüedig (dccompusing matter), ac a arferiryn benaf yn meithriniad y planhigyn, yn mwynhau ei faintioli, ac yn cynal ei nerth bywiol. Y mae yr ail jn gweithredu yn fwy ar y pridd a'r sylwçdd dadgyfausoddedig, yn hytrach nag yn cyfranu yn uniongyrcholat gynaliaeth y llysieuyn. Gelwiry cyntaf yn wrteithiau anifeilaidd a llysieuaidd (uninuil and vegetable), a'r llall yn wrtaith mwnaidd (fosùl). O dan yr ail ddosbarth hwn y cynwysìr nid yn unig calch, marl, a gypswn, ond hefyd tywod, graian, a chlai; ac felly y mae yr holl welliadau a effeithir ar y tir, trwy gyd-gymysgu y pridd gwreiddiol, yn gynwysedig ynddo. Y gwrteithiau anifeiíaidd a llysieuaidd, y rhai ydynt yn fraenllyd yn eu natur, ydynt y rhai mwyaf eu pwys. Y maenlyn gyfansoddedig o ranau elfenawl o sylweddau anifeilaidd'a llysieuaw! a weithredir mewn ffordd fferyllaidd (chemical) natunol, tra byddo y sylweddau yn dadgyfansoddi. Nid yw carthion anifeiliaid yn ddim arall ond gWehilion yr ymboith anifeilaidd neü îysieuawl a dderbyniasid i'r cylla, a gafodd ei doddi yno i raddau, ac a dafiwyd allan fel yn anwasanaethgar er maethiad ychwanegol ycorff. Oddiwrth yradfeiliad cyffredinol yma o sylweddau,a'u cyfnewidiad i wlybyroedd n gases, ymddengys fod sylweddau anifeilaidd a llysieuawl,a charthawl, yn ymddatod y naill i'r llall, ac nad ydynt ond gwahanol ranau o'r uu cyrff gwreiddiol. Elfenau gwreiddiol y cwbl o honynt ydyw hydrogen, carbon, ac oxygen, naill ai yn unigol, neu mewn rhywamgylchiadau wedi eu cymysgu â nitrogen. Wedi eu cludo gan sylweddau gwlybyrawl i'r tir, y maent yn gwas- anaethu fel maeth i wreiddiau plauhigion, ac felly yn ffurfiorhanau hanfodol hydyfiant newydd. Yu gymaint a bod cig yn cynwys ymgyfarfyddiad mwy o'r elfenau hyn na llysiau, y mae y carthion a geir oddiwrth grëaduriaid cigysawl (dyn yn gynwysedig) yn wastau yn gryfach, mewn cydraddiad t'w fdintiolaeth, nu'r hyn a geir oddiwrth anifeiliaid yn byw ar yr hyn a borant yn unig. Y mae arferiad beunyddiol yn cyflawn brofì nad ydyw pob gwrteithiau anifeilaidd a llysieuaidd ond am- rywiaeth.au o'r un fath o egwyddorion ; ac y raae eu dull a'u hymddangosiad o lawer llai eu pwys na graddau y nerth sydd yn bod ynddynt. Beth byuag fydd gwerth gwrteithiau anghyfansoddedig, nid ydynt o ddim lles mewn ymarferiad fel gwrtaith nes y byddant wedi eu braenu. Ý maebraeniad yn beth daionus, dinystriol yn ei natur. Os na fydd i'r sylwedd anifeilaidd neu lysieuaidd fraenu, nid yw o ddim mwy gwasanaeth i'r tir na chareg. Ermwyn esiampl,cymerwch ddarn o fawndir. Swp llysieuaidd anfywiog ydyw, yn gyf- ansoddedig o haenau o lysiau, yn cael eu cadw rhag pydru gan ddwfr, a rhyw rinweddau ynddo ei hun. Tra y mae yn bod yn y cyflwr yma, y mae yn ddiwerth fel gwrtaith; ond pan symudwn ef o i gors naturiol, y taenwn ef i'r hin, ac y dinystriwn y mân-wreiddiau bywiol ynddo, y mae yn cyfnewid ar unwaith, ac yr ydym yn cael yr hyn a eill foá yn wrtaith maethlawn. Gellir sylwi yn mhellach, fod braenedd yn waslad yn cael ei effeithio trwy ollwng yn rhydd y rhanau elfenawl, naill ai mewn cyflwr gwlybyrawl neu hedegawl (volatile). Os bydd swp o garthion stabl gael ei gasglu yn bentwr,a'i adael yn agored i bob math o hin, y mae ýu fuan yn cynhesu,ac yn taflu allan agerdd a welir yn aml yn gwmwl uwch ei ben. Yr agerdd hwn, a'r arogl y fnae yn eianfon allan ydynt gases sydd yn diauc, ac y mae y pentwr yn barhaus yn colli yn ei faint- Jolaeth â'i bwysau; uc yn mhenchwe mis, o% bu gwlybaniaeth a chynhesrwydd bob yn ail, ni fydd