Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T G¥YLI¥E. Rhip. 29. MEHEFIN, 1872. Cyf. 3. DE. MAETIN LTJTHER A'I AMSERAU. (PARHAD.) Ç\ EOSODD Martin yn Eisenach bedair mlynedà, ac j* aeth oddiyno i brif-ysgol Erfurt, dinas yn Saxony. Cy Yn llyfrgell yr athrofa hon, canfu Feibl, a sicr yw mai hwn oedd y cyntafa ddarlíenodd ; acoddiwrth ei syndod pan ei cafodd, gallwn gredu mai hwn oedd y cyntaf erioed a welodd. " Ië," ebe Martin, " Beibl ydyw yn wir." Mynych y gwelwyd Martin yn myned i'r hen lyfr- gell hon, i ddarllen gair Duw, trwy yr hwn y dysgodd efe y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu, yr Hwn sy'n Uawn gras a gwirionedd. Y gwirionedd cyntaf ddysg- odd Martin, oedd Santeiddrwydd Duw. Wrth ddar- llen yr adnod hono yn 1 Samuel 2. 2, "Nid santaidd neb fel yr Arglwydd," deallodd Martin fod santeidd- rwydd Duw yn ddigyffelyb, ac wrth ddwfn fyfyrio uwch ei gyflwr fel pechadur, bu glaf dalm o airser. Mater pwysig yw yr enaid a'i ìachawdwriaeth: a chyn gweîi di, ddarllenydd, druenusrwydd dy enaid noeth drwy bechod, rhaid i ti ddàl dy hun yn nrych santeiddrwydd dwyfol. Paham y mae crefydd mor isel yn ein dyddiau ni ? Santeiddrwydd Duw sydd o'r golwg. Ac er yr arddangosir ef yn holl weithred- oedd y Groruchaf (Salm 145. 17), yn ei eiriau (Jer. 23. 9), yn ei enw (Luc 1. 49), ac yn ei gymmeriad (Ioan 17. II), a'i deyrnas; y mae pechod megys cèri dros ein Uygaid yn attaj ei weled Ef; ein gweddi gan hyny fyddo am^ael gweled Duw yn ei santeiddrwydd, m'al y cafodd Luther: o herwydd y mae'r Ysbryd Glân heddyw (yr hwn sy'n deilliaw pddiwrth y Tad