Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIWR. Rsip. 28. MAI, 1872. Ctf. 3. CYNNYDD RHYFEDDOL Y BEDYDDWYR. ÍAE y canlynol yn ddarlun o gynnydd rhyfeddol y Bedyddwyr yn America, yr hyn a ddyfynwn o lyfryn bychan o eiddo Dr. GK S. Bailey, newydd ei gyhoeddi gan y Bible Pubîication Society. Yn 1666, fe sefydlwyd eglwys o Fedyddwyr yn Boston, ond yr oedd ei harweinwyr yn cael eu dirwyo a'u carcharu yn fynych iawn ; ac yn 1680, cafodd drws eu capel ei hoelio i fyny trwy awdurdod y Gen- eral Court. Pan sefydlwyd Trefedigaeth yn Pennsylyania gan William Penn,yn I682,caniatawwyd rhyddid crefyddol cyflawn. O'r flwyddyn 1700 hyd 1750, cynnyddoddy Drefedigaeth yn gyflym ; ac felly y gwnaeth yr eg- lwysi hefyd. Ar ddiwedd y cyfnod hwnw, rhifai y Bëdyddwyr 58 o eglwysi, y cynnydd yn ol un eglwys newydd bob blwyddyn. Yn y 40 mlynedd canlynol, sef, o 1750 hyd 1790, bu cynnydd llawer mwy a chyf- lymach. Yr oedd hwn yn cynnwys cyfnod y chwyl- dröad Americanaidd. Cyn y cyfnod hwn, ac yn ystod y cyfnod, yr oedd y pynciau mawrion, sef, gwleidiadol, cartrefol, a chrefyddol yn cael eu dadlu, ac yr oedd yn ferw brwd trwy y wlad, a chymmerodd y Trefedig- aethau i fyny eu harfau i amddiífyn eu hawliau, a'u rhyddid gwíadol a chrefyddol. Amserau ydoedd y rhai hyn i brofi eneidiau dynion—amserau pwysig oeddynt! Fe wasgarwyd goleuni; ac fe ennillodd gwirionedd a rhyddid fudcìugoiiaethau gogoueddus. Fe ennillodd y Trefedigaethau eu hanuibyniaeth trwy draul faw.ro drysorau, caledi, a gwaed. Ond yn y 40 mlynedd 'feyn, fy gynnyddodd eglwysi y Bedyddwyr o