Skip to main content

Y GWYLÍWR. Ehif 23. EHAGFYB, 1871. Cyf. 2. ABEL. GAN PEREAN'DEE, EISCA. Cain oecld bachgen drwg cyntaf y Beibl ; Abel oedd bachgen da cyntaf y Beibl. Ni fu un o'i flaen, ond bu llawer ar ei ol, ond neb gwell nag ef. Ar aelwyd Adda yr oedd y byd a'r eglwys wedi cyd-gwrdd ; nefoedd ac uífern yn yr un ty ; Parad- wys a Gehenah yn yr uu ystafell; Duw a diafol o dan yr un gronglwyd. Yr un oedd manteision y ddau frawd ; etto, yr oedd un yn dda, a'r llall yn ddrwg. Nid yw cyfleusderau crefyddol o angen- rheidrwydd yn sicrhau duwioldeb, ac nid yw duw- ioldeb, fel rheol, yn gyimyrch anildra rhagorfreint- iau ; llawer sant a fagwyd ar drothwy uô'ern, a llawer o ddynion drwg a ddygwyd i fyny wrth borth y nef. Mae llawer yn teithio i Baradwys drwy afonydd a thros fynyddoedd; tra mae ereill yn llithro i uífern mewn cadeiriau esmwyth. Yr oedd yr hen bobl yn crefydda er gwaethaf y gelyn ; mae llawer yn awr yn esgeuluso er fod ganddynt amddiffyn ar yr orsedd. Er i Cain ac Abel gael eu meithrin ar yr un ael- wyd, yr oedd un yn grefyddol a'r llall yn anrighre- fyddol. Mae Abel yn cael ei ganmol fel addolwr—daeth à blaen-ffrwyth y defaid, ac o'u brasder hwyut yn aberth.