Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

«# Y GWYLIWR. Ehif 21. HYDREF, 1871. Cyf. 2. CYLCH YR ARWYDDION. Ddarllenydd Ieuanc,—Wele i ti ar y tudalen nesaf argrafflun o gyleh y deuddeg arwydd—y Sidydd, neu yn ol fel y geilw rhai ef Caer Sidydd, Caer Sidin, Sidyll, neu Sidydd. Ystyr y geiriau hyn yw troi, olwyn neu gylch troedig. Yn nghanol yr argraffiun, y ruae yr Haul yn eael ei ddangos. Y tri chylch gwyno'iamgylch a ddengys gylchdro y ddaear a'r ddwy is-blaned, Mercher a Gwener. Y nesaf at yr Haul yw Mercher, y nesaf at hyny yw Gwener, a'r allanol yw llwybr y ddaear. Y cylchau hirgrwn ag sydd yn croesi eu llwybrau, yw cylchau Comedau. Y mae cylch y planedau o amgylch yr Haul yn hirgrwn, ac nid yw yr Haul ychwaith yn sefyll yn gywir yn nghanol y cylch. Ar y tuallan i'r argraffiun, gwelir deuddeg o luniau gwahanol greaduriaid a dynion; y rhai hyn yw y deuddeg arwydd am ddeuddeg mis y fìwyddyn. Rhoddwn air byr o eglurhad ar yr arwyddion yma. Cylch tybiedig yn y nef serenog yw y Sidydd, yn 16, yn ol ereill yn 18, a rhai yn 20 gradd o led. Ar hyd canol y gwregys hwn y mae ffordd yr Haul, ac o fewn ei derfynau y mae llwybrau yr holl blanedau, oddigerth tair o'r mân blanedau (Asterords), sef Ceres, Palas, a Juno. Y ddaear sydd yn myned drwy y cylch hwn mewn gwirionedd; ond gan mai ar y ddaear yr ydym yn preswylio, yr Haul sydd yn myned ar hyd-ddo yn ein golwg ni. Pan ddywedir fod yr Haul yn yr arwydd a'r arwydd, y ddaear yn briodol