Skip to main content

Y GWYLIWR. Rhip 17. MEHEFIN, 1871. Cyf. 2. YALENTINE JAMERAI DUVAL. j-Lag^A Tabor omaia viìidt. '■■'ỳy'n <*(jyiÛ/^&^Ü* Gyda pnlese'r" rüawr y byddwn yn edrych ar gýnydd/ rhyfedd rhai dynion sydd yn ymgodi i sylw yr oesau ar waethaf anfanteision. Y.rnae tlodi yn gwgu arnynt, a dichon fod diflyg addfsg foreuol yn foddion i wneyd eu camrau yn arafach ; ond er y cyfan; " i fyny " yw eu harwyddair. Y maent yn sefylì yn nyffryn dinodedd â'u golwg tuag i fyny; y mae yn wir fod y mynydd y maent ar fedr ei ddringo yn serth: y mae y creigiau llwydion, un ar y Uall, yn edrych i lawr arnynt gyda phruddglwyfedd bygythiol, ac yn eu liiaith yn eu tynghedu i beidio cychwyn o'r maii y maent yn sefyll arno. Ond y mae rhyw ysol di'm wedi cyneu yn eu heneidiau. fel y mae aros yn y gwaelod allan o'r cwestiwn. Y mae yn rhaid iddynt hwy gael pen y mynydd neu farw wrth ym- drechu am dano. Un o'r dosbarth penderfynol yna oedd yr un y gosodasom ei euw uwchben ein hysgrif. Ganwyd Valentine Jamerai Duval yn mhentref Ortenay, Champagne, yn Ffrainc. Llafurwr tlawd oedd ei dad, a bu farw pan nad oedd ein harwr ond 10 oed, gan adael gwraig a theulu mawr mewn dygn dlodi i ymladd eu ífordd goreu y gallent trwy y digofaint pruddaidd y gwynebent arno. Y lle cyntaf yr ydym yn canfod Dnval ieuanc ynddo ar ol marwolaeth ei dad, ydyw yn ngwasanaeth gwladwr, yr hwn a'i gosododd i arolygu ei ddof-ednod. Nid oedd ein harwr yn teirnlo y swydd hon yn ei weddu