Skip to main content

Y GWYLIWR. Hhif 16. MAI, 1871. Cyf. 2. YR YSGOL SABBOTHOL MEWN CYSSYLLT- IAD A CHANIADAETH Y CYSSEGB. GAN Y PARCH. E. EOBERTS, PONTYPRIDD. Y mae caniadaeth yn un o'r celfau arddunol, a'r fwyaf arddunol o'r cyfan ydyw. Y mae canu yn naturiol i ddyn. Medda dyn ddarpariaeth naturiol ar gyfer canu, yn y glust, y llais, a'r peiriannau llafar; a theimla duedd canu yn ei galon. Dargan- fyddiad o ddeddfau y llais dynol yw sylfaen y gelfyddyd gerddorol; oddi yma y cafwyd y syniad am saith sain reolaidd a naturiol y raddfa. Ar y llais dynol y mae y cerddor a gwneuthurwr offerynau yn gweithredu, ac oddi yma y codant eu holl ddeddfau a'u rheolau. Y peiriant cerddorol cyntaf a chywiraf yw y llais dynol. Ac nid oes dim yn cario cymmaint o ddylanwad ar ddyn â chanu. Effeithia ar yr holl ddyn fel bod anianyddol, deallol, moesol, a chrefyddol. Gwefr- eiddir ei holl gorff, cyfieir addysg i'w feddwl, a chynhyrfìr ei holl deimladau gan ganu da. Dyddana canu da a theimladwy y galon alarus; y mae yn gyfrwng cyfieus i'r enaid llawen i ddatgan cyfìwr ei feddwl. Rhydd hyder yn yr ofnus i wyneb y gelynion ar faes y gwaed; a chyfyd feddwl a chalon plentyn Duw i fyny at orsedd y nef mewn addoliad. Cadw- odd canu deimladau gwladgarol yn fyw mewn llawer cenedl; deffrodd y difraw am eu hiawnderau i fyny o'u cysgadrwydd, a gwnaeth hwy yn wrol i gyfiawni gwrhydri er eu sicrhau. Bu canu da, canu o'r iawn ryw, canu llawn o deimlad byw, yn foddion Uwyddiannus mewn llawer oes ac ardal i enyn tân diwygiad crefyddol, ac wedi ei enyn i'w gadw yn fyw a'i eangu. Yr oedd Luther yn gystal canwr ag