Skip to main content

Y GWYLIWR. Rhif 12. IONAWR, 1871. Cyf. 2. GWERTHFAWROGRWYDD Y BEIBL. I dref Warington (Lloegr) yn ddiweddar daeth dau fachgenyn, wedi eu gwisgo yn gryno, yr liynaf yn ymddangos oddeutu 13, a'r ieueugaf oddeutu 11 oed. Galwasant wrth lety'r crwydriaid ain lety dros y nos. Ceidwad y llety yn dra phriodol a'u dygodd i swyddfa y crwydriaid i'w holi; ac os hyddent yn wrthddrychau o dosturi, i'w cynnorthwyo. Yr oedd yr hanes a roddasant am danynt eu hunain yn eithaf cyffrous, eithr nid oedd dim amheuaeth am ei gwirionedd a'i chywirdeb. Ymddangosai mai ychydig wythnos- au yn ol yr oedd y ddau grwydryn bach yn preswyho gyda'u rhieni yn Llundain; ond y dwymyn ddinystr- iol annhrugarog a gymmerodd ymaith yn yr un diwrnod eu tad a'u mam, gan eu gadael yn amddifaid mewn byd helaeth, heb na chartref na chyfaill! Yr oedd ganddynt ewythr yn Lerpwl; ac wedi talu y deyrnged alarus olaf i goffawdwriaeth eu rhieni, yn dlawd a diymgeledd fel yr oeddynt, penderfynasant i fyned tua Lerpwl, a thaflu eu hunain ar drugaredd eu hewythr; yn fìinedig a diffygiol cyrhaeddasant y dref hon (Warington) ar eu taith. Dau sypyn a gyn- nwysai eu hychydig feddiant oll. Yn eiddo y bachgen ieuengaf cafwyd Beibl, wedi ei rwymo yn hardd, a'i gadw yn ofalus. Ceidwad y llety a anerchodd y bachgen, ac a ddywedodd—"Nid oes genych nac arian na bwyd; a werthi di y Beibl hwn i mi? Mi a roddaf i ti bum' swllt am dano." "Na," eb efe, a'r dagrau yn treiglio i lawr dros ei ruddiau ieuengfridd, "newynaf yn hytrach." Dywedodd y dyn, ÄMae digon o lyfrau i'w prynu heblaw hwn; pahançgiwfii yn caru y Beibl mor fawr?" Atebodd y bäEgen,'