Skip to main content

Y GWYLIWR. Ehif 11. EHAGFYE, 1870. Cyf. 1. YE YSGOL YN EI PHEETHYNAS A'E EGLWYS. [Darllenwyd yr Ysgrif hon yn Nghwrdd Trimisol diweddaf Morganwg, gan y Parch. E. A. Jones, Abertawy.] Y Mae yr Ysgol yn ei pherthynas â'r Eglwys yn mhob cyfeiriad, ac yn ei holl gyssylltiadau, yn bwne rhy eang i ni allu gwneuthur dim fel cyfiawnder âg ef mewn papyr mor gyfyngedig. Cyfyngwn ein hunain i un pwynt neillduol, sef, bod yr Ysgol yn ei pherthynas á'r Eglwys, yn gosod yr eglwys o dan rwymau neülduol iddi. Pedwar sylw er egluro hyn:— I. Yr eglwys yn unig sydd yn alluog i gario yn mlaen waith yr Ysgol Sabbothol. 1. Hi yn unig sydd yn meddu barn gywir am angen ysbrydol deiliaid yr ysgol. Yr angen yma yw y bwysicaf o bob angen. Nid oes neb a all gydymdeimlo â hwy ond aelodau yr eglwys, y rhai a fu yn yr amgylchiad eu hunain, ac a waredwyd; y mae ganddynt hwy wybodaeth brof- iadol, a hwy yn unig sydd yn eu meddu. 2. Hi yn unig sydd yn deall yn iawn a phriodol, y ddysgeidiaeih ag sydd yn cyfateb i'w hangenion ysbrydol. Mae angen deiliaid yr Ysgol Sabbothol yn gyfryw nad oes dim ond dysgeidiaeth y Beibl yn ddigonol i'wdiwallu; ac fel y nodwyd, nid oes ond eglwys Crist yn meddu gwybodaeth brofiadol o gyfaddasrwydd y ddysgeid- iaeth yma ar gyfer eu hangen. Y rhai sydd wedi profi ysbrydolrwydd gair Duw, yn unig all ei ddysgu yn effeithiol i arall. 8. Hi yn unig, gyda chyssondeb, all wasgu adref hawliau dysgeidiaeth yr ysgol ar feddyliau ai deiliaid. Pa gyssondeb all fod mewn gosod anghredadyn yn athraw ŷn yr Ysgol Sab- bothol i ddyBgu Gair Dum^í ereill? Y rhai sydd