Skip to main content

. Y GWYLIWR. Ehif 3. EBBILL, 1870. Cyf. I. ê0it0l êrtfgìẁrrl YE EGLWYSI LLEIAF A'B WEINIDOGAETH. Yn y ddwy flynedd ddiweddaf, mae llawer iawn o siarad ac ysgrifenu wedi bod gan yr enwadau cref- yddol yn Lloegr, yn enwedig yn mysg y Bedyddwyr a'r Annibynwyr, o berthynas i gynnal gweinidogion yr efengyl mor weddaidd a cbyssurus eu'hamgylch- iadau ag y mae Cristionogaeth yn ei ofyn. Mae yn beth i'w ryfeddu i^a fodd y mae y Saeson yn gofalu am gynnaliaeth eu gweinidogion yn fwy nâ'r Cymry; er hyny, mae y ffaith yn aros mai felly y mae yn bod. Hen ddywediad oddiar cof yw, fod ychydig o Saeson yn cynnal eu gweinidogion yn fwy anrhyd- eddus nâ llawer o'r Cymry—'ie, fod eglwys o gant o rif o'r Saeson gystal ag eglwys o ddau caät o Gymry. Ae niçL yn unig y mae y Saeson yn Llo.egr felly, ond yr eglwysi Seisnig ag ydynt yn mhlith y Cymry hefyd yr un fath. Pe gofynid gofyniad fel y canlyn, efallai y bydd yn lled anhawdd i'w ateb, sef pa fodd y mae eglwys o Saeson, yn yr un dref yn Nghymru, ac o'r un amgylchiadau arianol ag eglwys o Gymry, ac etto, y gyntaf heb fod yn llawer mwy uà hanner rhif yr olaf, er hyny yn cynnal ei gweinidog yu amgenach ac anrhydeddusach ? Dyma ofyniad arall ag sydd mor anhawdd ei ateb â'r un blaenorol, sef pa fodd y mae yr eglwysi Seisnig yn cadw mwy 0 stwr, ac yn cynhyrfu mwy ar eu gilydd, nâ'r eglwysi Cymreig y dyddiau hŷn, ar y pwngc hwn, er bod eu gweinidogion yn fwy cyssurus eu hamgylchiadau eisoes? Byddai yr ysgrifenydd yn barod i roddi