Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIWR. Bhif 1. CHWEFEOE, 1870. Cyf. I. AEMAGEDON : DAT. XVI. 16. Hen enw Hebraeg yw Armagedon, ag a gyfieitliir yn amrywiol, megys Mynydd Megido, Mynydd yr Efengyl, Mynydd y ffrwythau, Mynydd yr Afaîau; ac yn ol Esgob Newton, Mynydd y Dinystr. Os mynydd Me- gidon a feddylir, mae yma, yn y Datguddiad, gyfeir- iad ffigurol at y lle y gorehfygodd Barac a Debora Sisera a'i gydfreninoedd; a'r lle, ar ol hyny, y elwyf- wyd y brenin Josiah i farwolaeth. Mae y lle hwn yn y gwastadoedd wrth draed Mynydd Carmel, yn ngwlad Canaan. Dyma lle y bu y ddau ryfel mawr a nodwyd, y cyntaf a drodd yn fuddugóliaeth i Israel, a'r olaf yn fuddugoliaeth i'r gelynion. Yn ol llyfr y Datguddiad, mae rhyfel mawr i fod yn y lle hwn etto, pan y bydd i'r fuddugoliaeth droi o du pobl Dduw, ac y gorchfygir eu gelynion am | byth. Ni a gredwn, fel y dywedasom, mai rhyfel fl&gurol yw hwn i fod, neu ryfel egwyddoriotí, a bod ^ y lle hwn, Armagedon, yn golygu yr holl fanau, neu wledydd y bydd yr egwyddorion hyn yn cael eu dadleu. Efallai, er hyny, y bydd yn rhaid i'r cleddyf naturiol gael ei dynu o'i wain yn awr ac eilwaith, hyd y nod mewn cyssylltiad à phethau crefyddol, cyn y bydd terfyn i gael ei^roddi ar elynion crefydd. a chyn y bydd i wirionedd, cyfiawnder, a rhyddid, i láüd twyll, anghyfiawnder, a thrais ; fel, i raddau helaeth, y mae hyn wedi bod trwy holl oesau cred hyd y dydd hwn. Nid rhyfel un dydd, wythnos, mis, itëu flwyddyn yw rhyfel Armagedon, ond yn hytrach,