Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

10 BRUT Y TYWYSOGION. aeth Dyfed oblegyd rhyfel a fu rwng Hywel fychan a Chy- nan ei frawd, o gorfu Hywel ynys Fon. Oed Crist 814, bu taranau a lluched ofnadwy dros benn yn torri a llosgi tai a choedydd yn aruthr, ac y bu farw Gruffydd ab Cynan achaws brad Elisse ei frawd. Yr un flwyddyn y bu ryfel yr ail waith rhwng Hywel a'i frawd Cynan, ac a laddes lawer o'i wyr ef, ac yna Cynan a gyn- hulles attaw gad niferawg dros benn, ac am benn ei frawd Hywel y rhuthres, ai yrru o Fon hyd ym Manaw. Ymhen ychydic wedy hynny bu farw Cynan Tindaethwy brenin Cymru oil. A merch oedd etifeddes iddaw a briodes a gwr pendefig ai enw Merfyn frych; ei fam ef Nest ferch Cadell Deyrnllwg fab Brochwel ysgithrawc. Oed Crist 815, y lias GrifTri ab Cyngen ab Cadell Deyrn¬ llwg. Oed Crist 818, y dechreues Merfyn Frych ac Essyllt ei wraig wladychu Gwynedd a Phowys, a'r flwyddyn honno y bu waith Llanfaes ym Mon. Oed Crist 819, y drygwyd Dyfed yn ddirfawr gan Gen- wlff brenin Mers. Oed Crist 823, y diffeithwyd gwlad Bowys gan y Saeson, gan ddwyn y meibion bychain i gyd oddiar eu mammau a'u meithrin yn Saeson, canys arferid hynny gan y Saeson, a'r un flwyddyn y llosgasant Deganwy. Oed Crist 829, y dug Egbert brenin Caerwynt y danaw Bernwlf brenin y Mers drwy ymladd drydlew, ac yn eb- rwydd gwedi hynny y dug efe y danaw y saith brenhini- aeth Seisnig, a galw gwlad Loegr yn Inglont, a galw'r iaith Ingles. Oed Crist 830, y bu diflyg ar y lleuad" yr wythfed dydd o fis Rhagfyr, a'r un diwarnod y bu farw Morydd ab Llywarch Llwyd brenin Ceredigion. Oed Crist 831, y daeth Saeson y Mers ar hyd nos yn ddi- arwybod, ac a losgasant Fonachdy Senghenydd, ydd oedd hwnnw yn y man y mae y castell yn awr, ac oddiyno y daeth- ant hyd yng nghastell Treoda ac ai llosgasant: a dianc