Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Qt E D E 0 N ; DDIWYGIWR WESLEYAIDD. " BETH SYDD GAN DDYN GONEST l'W OFNI ?" CYF. III. MEHEFIN, 1855. Rhif. 6. Y FASSÎAGH FEBDWOL. Darlith III. ÜLRHEINIWN ei heffeithiau alaethus ar foesau y genedl. Gwir bod ei drygau gwladol a moesol wedi eu cydgyfrodeddu y naill yn y llall, fel y mae yn an- hawdd eu dynodi yn wahaniaethol, atn eu bod fel corff ac enaid—ni ellir clwyfo y naill heb archolli y llall — canys y mae yr undeb yn agos a thyner. 1. Y mae yn effeithio yn ddrwg mewn ystyr foesol, am na ddengys ei dilynwyr wir barch i'r Sabboth, y dydd a hawlia Duw yn bendant iddo ei hunan, ac y mae yn dra eiddigus drosei santeiddiad. Pob troseddiad o'r ddeddf foesol, sydd yn anfoesol. Y mae y fasnach hon yn sathru yn hyf', digywilydd, a phenuchel ar hòno. Pan y niae rnasnachwyr ereill yn cael eu hatal gan y gyfraith i werthu nwyfau angenrheidiol, maethlon, a gwas- anaethgar, y mae y tafarnwyr yn cael eu hawdurdodi trwy ddeddf i werthu nwyfau ar ddydd Duwj ac y rnae hanesiaeth, difyniaeth, an- ianeg, a phrawf pob oes yn eu dangos, o leiaf, yn anangenrheidiol. Gymaint o íìloedd sydd mewti cysylltiad à'r fásnach feddwol ar y dytld santaidd, yn cael eu cadw o dŷ Dduw, a'u hamddifadu o'r unig foddion a apwyntiodd Duw i gadw eu heneidiau anfarwol! Eto hwy a dreuliant yr unig awel o gyfleus- dra a ddarparodd Duw iddyut i " ffoi rhag y llid a fydd," i wneu- thur, cymysgu, a gwerthu diodydd rneddwol! llhaid bod dylanwad moesol y fath fasnach yn gwywo blodau rhinwedd, yn angeu i wyl- der, yn fynwent i ledneisrwydd, ac yn fedd i bob tuedd ddaionus tnewu miloedd o fodau sydd wedi eu creu i fyw byth ! 2. Y mae y fasnach feddwol yu efteithio yn niweidiol ar foesau y teuluoedd sydd yn dilyn y fasnach. Dywedir bod y duwiau paganaidd yn noddwyr i rhai drygau, ond ym- ddengys bod y "duw Bacchns" yu noddwr i bob drwg! Pwy ddyu ystyriol a theimladwy, ag sydd yn meddu parch a gofal priodol am briod ei fynwes, a mam ei blant, a all deimlo yn gysurus a thawel wrth ei gweled yu nod i ymosodion isel, budr, a halogedig y dosbarth sydd yn mynychu tafarnau ? Pob men-