Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GEDEON DDIWYGIWR WESLEYAIDD. "beth sydd gan ddynion gonest i'w ofni?" Cyp. II.] TACHWEDD, 1854. [Rhif. 11. ANERCHIAD Y CENADON AT GYMDEITHASAU Y DIWYGWYR WESLEYAIDD YN Y DEYRNAS GYFUNOL. Anwvl Frodyr,—Fel cynrych- iolwyr cymdeithasau y Diwygwyr Wesleyaidd yn y deyrnas gyfunol, yr ydym newydd gynal einChwech- fed Cyfarfod Cyffrcdinol yn nhref Birmingham. Ymgynullodd lluaws mawr o genadon ar yr achlysur o boh parth o r deyrnas. Yr oedd y cyfarfod yn cael ei hynodi â rhyddid i bawh i lefaru ei feddwl; a theim- ladau Cristionogol yn cael eu dangos gan yr oll; ac er fod yno wahanol feddyliau, dygid yr oll oddiamgylch mewn cydgordiad a chariad. Cyf- arfuasom fel brodyr, aelodau o'r un teulu, a chredinwyr yn yr un Gwar- edwr—yr unig "ben uwchlaw pob peth i'w eglwys." Yn credu y bydd darlun byr o hanes a aeth heibio, a sefyllfa bresenol y symudiad mawr y daliwn gysylltiad âg ef, yn fodd- haol genych, yr ydym gyda phleser yn ymgymeryd â'r gwaith, gan gyf- lwyno i chwi ychydig o'r hyn a wnaeth y symudiad diwygyddol trwy fendith Duw. Y symudiad diwygyddol, fel y gwyddoch, a darddodd o weithred- ladau neillduol y Conference / yn gyntaf yn niarddeliad tri o'u brodyr, heb gymaint â dwyn cyhuddiad yn eu herbyn, a hyny ar draws rheol bendant ac eglur a osodwyd i lawr gan y Gwaredwr; ac yn ail yn ni- arddeliad lluaws mawr o aelodau a swyddogion, y rhai a gydymdeimlas- ant â'r gweinidogion a niweidiwyd. Yr oedd y gweithrediadau hyn inor groes i ysbryd, gorchymynion, ac es- amplau y Testament Newydd, ag yw i arferiad pob eglwys Brotestanaidd mewn Cristionogaeth. Yn erbyn yr awdurdod anysgrythyrol hon y rhoddasom ein gwrthdystiad difrif- ol, ac y cyhoeddasom ryfel pender- fynol; a thrwy gymhorth Duw ni a barhawn i frwydro nes y coronir ein hymdrechion â buddugoliaeth. Yn nghorff y pum mlynedd er ys pan ydym yn yr ymdrechfa, y mae llawer wedi ei wneyd. Codasom yr holl gyfundeb Cristionogol, a chaws- om gydymdeimlad yr holl eglwysi Protestanaidd bron o'n hochr. Bu i nifer mawr o weinidogion ddwyn eu tystiolaeth yn ddifrifol ar y plat- form, a thrwy y wasg, yn erbyn hawliadau Pabaidd a pheryglus y