Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

tm GEDEON; NEÜ, DDIWYGIWR WESLEYAIDD. "beth sydd gan ddynion gonest i'w opni?" Cyf. I.] MEHEFIN, 1853. [Rhip. 2. CYFANSODDIAD WESLEYAETH. " Y mae ein cyfansoddiad ni yn y Bibl,"ebai y Parch. John Scott. Fel Diwygwyr Wesleyaidd,glynwn wrth y Bibl; yr ydym yn ewyllysgar i ufyddau i'w orchymynion, ac yn bryderus am gael ein llywodraethu gan ei ddeddfau. Credwn pa agosaf y bydd eglwys i'r ysgrythyrau, goreu oll a fydd o ran rhyddid, llwyddiant, a phurdeb ei haelodau. Os rhydd eglwys fwy o ryddid i'r aelodau nag a ganiata yr ysgrythyrau, rhaid iddo fod ar draul purdeb, a bydd ei llwyddiant yn sicr o gael ei attal. Os, o'r ochr arall, y cyfynga yr eg- lwys eu rhyddid, y maent yn caeth- iwo y rhai a ryddhaodd Crist. Y mae sefyllfa o gaethiwed yn un o ddiraddiad, ac y mae yn ffordd llwyddiant, ac yn annghydweddol â phurdeb. Dedwydd gan hyny yw y rhai all ddyweyd gyda y Parch. J. Scott, " Y mae ein cyfansoddiad ni yn y Bibl." Y mae yn achos o ofid bod y boneddwr wedi boddhau ei hun ar haeru yn unig. Buasai yn dda iddo ef, nèu rai o'i frodyr, fyned gam yn mhellach, sef, profi fod "cyfan- soddiad Wesleyaeth ' fel y mae' yn y Bibl." Yr ydym yn awyddus am Reform, ond yn fwy am y gwirion- edd. Os gall ein cyfeillion brofi fod Wesleyaeth fel y mae mor unol â'r ysgrythyrau, fel y gellir dyweyd bod ei chyfansoddiad " yn y Bibl," yna bydd i ni ar unwaith roddi i fyny ein gwrthwynebiad, ac erfyn yn ostyngedig am faddeuant. Mewn dull hynod darlunia plaid y Con- ference y Reformers fel dynion wedi syrthio, wedi colli grym crefydd, ac yn caru y tywyllwch yn fwy na'r goleuni. A allantfeddwl bod yr holl Reformers felly? A yw y 80,000 felly ? Yn ddiau y mae rhai o hon- ynt yn ymofyn am y gwir, ac yn awyddus i rodio llwybr uniondeb! Oni wnai adferu 10,000 o honynt dalu am y drafferth. Y mae dynion talentog yn perthyn i blaid y Con- ference, y rhai a allant ysgrifenu yn eglur a therfynol. (Nid W. Row- lands pawb.) Erfyniwn arnynt gy- meryd y gwaith, a goehelyd^eweraí- ities, peidio cymeryd dim byd yn ganiataol, ond bod y Bibl yn wir, i gyfeirio at yr un llyfr ond gair