Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GEDEON; NEÜ, DDIWYGIWR WESLEYAIDD. "beth sydd gan ddynion gonest i'w ofni?" Cyp. I.] MAI, 1853. [Rhif. 1. GEDEON YN AOTON ANNERCH. Gydwladwyb, Hoff, Y mae ufydd-dod i Dduw'r gwir- ionedd, i egwyddor dda, i gydwybod oleuedig, i grefydd bur, ac i anghen- ion yr amserau, yn íÿ nghymhell i ymddangos yn eich mysg yn fy llawn arfogaeth, o achos y mae y tra-arglwyddiaeth a arfera gweini- dogion y Conference dros eglwys y Duw byw, yn fwy nag a all neb eiddigus dros arbenogaeth Crist yn ei deyrnas ddyoddef, heb deimlo, llefaru, a gweithredu; canys os na ddeffry y bobl ar frys i sefyll ar du yr Arglwydd, bydd rhaid rhifo Wes- leyaeth ynfuanynmysgy pethau fu. Bydd i mi ofalu am i'm hudgyrn arian, i'm piserau pridd, ac i'm lampau tân, fod oll o'r wir argraff; a chariaf ỳn fy llaw yn wastadol " Gleddyf yr Arglwydd;" ac ar ol i mi ennill y fnddugoliaeth, ni chan- iataf i neb dynol ormesu arnoch. " jEithr yr Arglwydd a arglwydd- iaetha arnoch," canys " un yw eich athraw chwi, sef Crist; a chwithau brodyr ydych" oll yn gyfartal mewn nefolion bethau. Gall y dysgwyliwch resymau dros fy ymddangosiad yn bresennol yn y dull hwn, ac y carech wybod yn erbyn pwy yr ymosodaf, ac ar ba bwyntiau yr ymresymaf yn benaf. W.el, y mae yn hysbys i'r oll sydd yn syllu ar weithrediadau y corff Wesîeyaidd y dyddiau hyn, fod y rhai a ((fynant fod yn arglwyddin ar y cyfundeb wedi llygru y gyfun- drefn hòno oddiwrth ei symlrwydd cyntefig. Collasant eu golwg yn hollol ar esiampl apostolaidd Mr. Wesley, yr hwn, trwy ei onestrwydd syml, ei sêl bur, a'i lafur diflino, a wasanaethodd ei oes yn ffyddlon. Ondprif nôd y tô presennol o weini- dogion Wesleyaidd yw awdurdod, cyfoeth, dylanwad, esmwythyd, ac uwchafiaeth ly wodraethol; ac er ceisio cael gafael yn y fath awdur- dod, ni phetrusant sathru ar gyf- iawnder, trugaredd, gwirionedd, ysgrifeniadau Mr. Wesley, a'r cyf- ieithad Protestanaidd o air Duw, nes y jnaent wedi troi Wesleyaeth yn hollol wrthweddol i Gristionog- aeth syml y Testament Newydd, nes y mae bellach yn dwyn llawer iawn o ddelw y dyn pechod o Rufain.