Skip to main content

Y GYMRAES. Cyf. II.] RHAGFYR, 1851. [Rhif. 12. ^trgoft'otu HANES CWM GWENEN.—RHESYMAÜ DROS GAEL GWEINIDOG NEWYDD. Llythyr VIII. Gan Cymro Bach. Ferched Serchog,—Nid ychydig o foddlonrwydd i fy meddwl a rydd eich cymeradwyaeth chwi i'r Gymraes—ac, of course, eich canmoliaeth o " Hanes Cwm Gwenen ;" oblegid tâl go dda i unrhyw ddyn yw cael rhai i ddarllen ei waith. O barthed i argraffiad fy llythyrau ar Hanes y Cwm yn llyfryn bychan, yn ol dymuniad llawer o honoch, nid oes genyf ond gadael rhwng Ieuan Gwynedd a chwithau. Mae fy nghyfaill, Golygydd Y Gym- raes, yn ddigon parod i weithio—'ie, ac i ymladd hefyd dros ferched Cymru, pan byddo ef yn tybied hyny yn ddoeth. Y llythyrau ydynt at ei wasanaeth ef a thrigolion Cwm Gwenen; ac os barna ef y bydd argraffiad o honynt yn fuddiol, neu yn ddifyrwch diniwaid i chwi drwy Gymru hen i gyd, mae yn o debyg y bydd iddo eu cyhoeddi, os caiff einioes; ond y mae yn ofynol i mi orphen Hanes y Cwm yn nghyntaf. I'r dyben i gadw y gadwyn hanesol yn gyfan, rhaid i mi yn awr fyned at hanes y Spruciaid; a chyn y bydd pob dolen yn ei lle, rhaid gosod rhyw bethau i mewn yn Y Gymraes, a ymddangosasant yn Seren Gomer, yn y flwyddyn 1847 ; ac wedi hyny, âf yn mlaen âg hanes y Cwm, o amser dyfodiad Mr. Spruce yno hyd yr amser presenol. Rhaid i chwi oll drwy Gymru penbaladr, ddeall fod trigolion Cwm Gwenen, yn y blyueddau di- weddar yma, yn nodi eu hamser fei y canlyn:—Pan soniant am ryw ddyg- wyddiad neu amgylchiad, dywedant fod hyny wedi cymeryd lle hyn a hyn o flyneddau cyn dyfodiad Mr. Spruce i'r Cwm ; neu hyn a hyn o fisoedd wedi ei ddyfodiad yno. Hynod mor Ueied peth a wna epoch yn y byd weithiau ! Caiff y llythyr hwn fod ar achos dyfodiad Spruce i'r Cwm. Yr wyf yn lled sicr y bydd pob un o berchenogion Seren Gomer yn ddigon boddlon i Olygydd Y Gymraes gymeryd at ei wasanaeth yr hyn a dybia yn fuddiol; ac y bydd iddo yntau hefyd, yn ei dro, fod yn liawen wrth weled Y Gymraes bob amser at eu gwasanaeth hwythau.—Fel yna yr hoffwu weled Golygwyr pob Cyhoeddiad. 2a