Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GYMEAES. Cyf. II.] HYDREF, 18.51. [Rms. 10. Y CODWM ERCHYLL. Yr oedd Hugh Williams a Jane ei wraig yn cael eu rhifo yn mysg y bobl fwyaf boneddigaidd a chariadus yn mhlwyf Llanybadell. Trigent mewn tyddyn o'r enw Brynllech, ar yr hwn yr oedd tŷ anedd yn rhagori ar y cyíFredin o amaethdai Cymru. Perthynai y lle i hen foneddwr yr hwn oedd yn bur ofalus mewn rhyw fFordd am gysur ei ddeiliaid,ac felly yr oedd tai lled dda ar ei etifeddiaeth, er fod llawer chwim ddigon digrif yn ei ben. Eto, yr oedd y tyddynwyr yn hoffi byw dano, a'r gweithwyr yn gwybod nad oedd yn greulon nac afresymol ond iddo gael ei ffordd ei bun. Feliy yr oedd yn fendith i'w gymydogaeth, yr hyn ni ellir ddweyd am lawer o feistriaid tiroedd yn y dydd- iau hyn. Nid mynych yr oedd neb o'i ddeiliaid yn cael eu gwerthu i íyny ganddo, am fod arnynt ôl-ddyledion. Yr oedd yu hirymarhöus, yn enwedig wrth wragedd gweddwon. Nid oedd un wraig yn ofni colli ei thir ar farwolaeth ei phriod, oblegid yr oedd yn rheol sefydlog ar yr ystâd, y caffai y weddw y cynyg cyntaf, ac nid ai un wraig weddw i'r Plâs dranoeth ar ol yr angladd " i ofyn y tir," heb gael derbyniad caredig gan yr hen Yswain. Yn mysg deiliaid dedwydd yr ystâd dan sylw, yr oedd Hugh Williams yn nn o'r dedwyddaf. Yr oedd ganddo dyddyn da atn bris rhesymol yn agos i'r farchnad, tŷ da i fyw ynddo, a ffyrdd da i ddyfod ato. Yr oedd Rhagluuiaeth wedi ei freintio â phump o blant, ac yr oedd y rhai hyn yn y cyfnod boreol o'u hoes oll yn gysur i'w rhieni. Rhoddwyd addysg dda i'r meibion, ac mewn amser ymsefydlasant yn amaethwyr cyfrifol yn eu plwyf genedigol a'r un çyí'- agos. Rhoddwyd hefyd addysg weìl nag oedd yn disgyn i ran y cyffredin o ferched amaethwyr Llanybadell i'r ddwy ferch Ann a Miriam. Mewn gair byr, ni esgeulusodd Hugh a Jane Williams unrhyw foddion er cymhwyso eu plant i fod yn aelodau defnyddiol mewn cymdeithas. Cawsant bob cyfle a rhwyddineb i ddarllen ac i gynyddu mewn gwybodaeth. Gan eu bod yn ael- odau cyson a pharchus o'r Eglwys Wiadol, yr oeddynt ar deleran da a'r offeii- íad,yr hwn oedd yn wr gwybodns a pharod iawn i hyfforddi pobl ieuainc. Yr oedd Mr. Pugh yn rhagori ar y cyffredin o'r offeiriaid yn y rhan hono o'r wlad, Treuliasai foreu ei oes gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a dysgodd lawer o'u gwersi buddiol ac o'u hymarferiadau daionus hwy. Barnai pobl Llanybadell nad oedd ail na chyffelyb iddo, oblegid yr oedd yn aml yn gweddio heb lyfr yn eu haneddau, ac yn pregethu heb bapyr yu y pwlpud. Nid oeddent