Skip to main content

Y GYMRAES. Cyf. II.] MEDI, 1851. [Rhit?. 9. &trgot?on» PABYDDIAETH.—Y CHWIL-LYS, {Cyfieitliad o'r Christian's Penny Magazine am Gorphenaf diweddaf.) Wedi rhoddi yn ein rhifyn diweddaf olwg gynwysfawrar uno brif egwydd- orion eglwys Rufain, ni gawn ar yr achlysur presenol fwrw cipolwg i ddirgel- fa un o'r sefydliadau penaf, sef y Chwil-lŷs. Wrth wnenthur hyn, pa fodd bynag chwenychwn ddangos yn ddigon amlwg nad ydym i siarad am beth.au amser maith wedi myned heibio, ac wedi cymeryd ile mewn gwlad bellenig,, ond am beth diweddar, ac wrth ein drysau ein hunain,—dygwyddiad o ba nn y mae rhan helaeth o'r genedl sydd yn fyw yn eglur gofio am dano. Y ddangoseg a gawn ddewis yw y gangen o'r Chwü-lŷs, yr hwn a sefydlwyd yn Madridi, fel y cafodd y Ffrancod ef yn 1809. Yn 1809, pan oedd y Milwriad Lehmanowsky yn flaenor ar y rhan o filẃyr Napoleon ag oedd yn sefydlog yn Madrid, yr oedd y Milwriad yn arfersiarad yn rhydd â'r trigolion beth oedd ei feddwí am yr offeiriaid Pabaidd, ac am y Chwil-lŷs a'r Mynachlogau. Yr oedd Napoleon wedi rhoddi gorchymyn fod y Mynachlogau a'r Chwil-lŷs i gael eu diddymu, ond ni chymerodd hyny le. Aeth misoedd heibio heb i garchantu y Chwil-lŷs gael eu hagor. Un noswaitfo hwng deg ac un-ar-ddeg o'r gloch, pan oedd y Milwriad yn cerdded ar hyd un o heolydd Madrid, rhuthrodd dau ddyn arfog yn ffyrnig arno o heoì guì. Mewn eiliad tynodd ei gleddyf, a gosododd ei hun mewn dull amddiffynol, a phan yn yr ymdrech â hwy, gwelodd o bell oleuni y gwyìwyr, sefmilwyr y Ffrancod yn marchogaeth, yr oeddynt yn cario llusernan, ac yn marchogaeth drwy heolydd y ddinas bob awr o'r nos, er diogelu heddwch. Galwodd arnynt yn y iaith Ffrengig a phan oeddení yn brysio i'w gyuhorthwyo, rhedodd y rhuthwyr ymaith nerth eu traed, a diangasant; ond nid cyn y deallodd wrth eu gwisg eu bod yn perthyn i wyliadwriaeth y Chwil-lŷs. Aeth yn uniongyrchol at y Penciwdod Souît, Ilywodraeíhwr Madrid, a dywedodd wrtho yr hyn a gymerasai le, ac a'i hadgofìodd am y gorchymyn i ddiddymu y Chwil-lŷs hwn. Y Uywodraethwr Soult a atebodd y gallai fyued a'i ddinystro ef. Y Mil- wriad L. a ddywedodd wrtho fod eí gatrawd ef yn annigonol at y fath orchwyl, ond os rhoddai ef iddo ddwy gatrawd yn ychwanegol, y 117eg, ac un arall a enwodd, y cymerai y gorchwyl mewn llaw. Y*r oedd y gatrawd 117eg o dan awdurdod y Milwriad De Liìe, yr hwn sydd yn awr fel Milwriad L. yn wein- idog yr efengyl, ac yn fugail ar eglwys efengylaidd yn Marseilles, Ffrainc.