Skip to main content

Y GYMRAES. Cyf. II.] AWST, 1851. [Rhif. 8. HlígSŴltt* CẀYMP A MELLDITH OLWEN. Er rhoddi Olwen Dafydd i breswylio tir anghof, deffröodd ei marwolaeth deimladau, y rhai nas gallent farw yn fuan yn Nghwm Bradwen, athrwy holl blwyf Llan-y-marian. Aeth y son am eu hangeu brawychus ar led, a chofid am y pwyslais dychrynllyd â'r hwn y cyhoeddasai wae tri-phlyg ar ben Llewelyn Morlo. Teimlai pawb nas gallasai Lìewelyn lwyddo mwyach mewn dim y dodai ei law arno. Edrychid arno fel angenfil mewn ffurf ddynol, yr Irwn o hyn allan nis gallasai lai na bod yn nod i ddialedd y Nefoedd, oblegid yr oedd pawb yn sicr mai arno ef yr oedd yr holl fai am gwymp Olwen Daf'ydd. Nid oedd cymeriad amheus Alis yn darian nac astalch iddo yn awr, o her- wydd teimlai y werin fod Olwen wedi ymddwyn fel morwyn bnr, nes iddo ef ei llusgo i afiendid. Ymddangosai yn awr fel creadur ar ganol y maes, heb un math o gysgod rhag y dymestl oedd ar ddisgyn arno. Gadawodd ei blant eu eartref, ac ymddangosai pawb ond ei wraig niweidiedig, yn cilio ymaith, fel y gellid cael lle rhydd i ysgorn dynion a dialedd y Nefoedd ymdywallt arno. Ymlynai hi wrtho fel y gweîsom yr eiddew yn ymbiethu am dderwen wedi i'r fellten ei tharo a'i hollti yn fil o ysgyrion. Felly yr oedd Miriam gyda'i phriod anffyddlon a bradwrus. Nid oedd creadur yn gwenu arno ond hi, ac nid oedd un llais yn disgyn ar ei glust gydag acenion tynerwch ond yr eiddo hi. Yr oedd ferched ieuainc yr ardaloedd yn ymgroesi rhag ei bresenoldeb, ac os gwelent ef yn dyfod, tröent oddiar y ffoi-dd er mwyn ei ochelyd. Yr oedd yr olwg arno yn cael yr un effaith ar bobl ag oedd agosàd y gwahanglwyfus yn ei gael ar yr Israeliaid. Yr oedd ei glwyf yn ei wahanu oddiwrth ddynion. Gadawyd ei wasanaeth gan bob bachgen a geneth o gymeriad yn ddioed, a gwell fuasai gan rieni y wlad weled claddu eu pîant nag iddynt gyflogi gydag ef. Daeth ei enw yn felldith a rheg; ni chyfeirid ato, ond fel creadur i'w ochelyd, ac ni sonid am dano, ond fel angenfil oedd wedi cael bod, ryw sut neu gilydd ar lun dyn, ond gan yr hwn yr oedd teimladau a thueddiadau rhy ffiaidd i ddyn a rhy warthus i ellyll. Pan oedd Llewelyn wedi cael ei adael fel hyn, heb blant ac heb wasanaeth- ddynion, heblaw ysgubion y byd a sorod pob dim, aeth swn ar led fod drycli- iolaeth Olwen i'w gweled ar nosweithiau lled olau uwchben Ceunant y Dibyn. Er nad oedd pobl Cwm Bradwen yn nodedig o ofergoelus, canys i'n gwybod- aeth ni, nid oedd un dyn yn y Cwm yn hòni iddo erioed weled ysbryd, eto credid hyn gan bawb? oblegid yr oedd pawb yn barod i gredu un peth ag a