Skip to main content

Y GYMEAES. Cyf. II.] GORPHENHAF, 1851. [Rhif. 7. CWYMP A MELLDITH OLWEN. Y mae Cwm Bradwen yn gynwysedig o lain hir o ardal fryniog, heb ond ychydig wastadedd o'i fewn. Ysgerir ef oddiwrth yr ardaloedd cymydog- aethol gan ddau geunant dwfn, sef Ceunant y Pared, a Cheunant y Dibyn. Yn rhigolau creiglyd y rhai hyn y mae ffrydiau Crochwyllt a Crychwen wedi cynal rhyfel didor am oesoedd â'n gelynion creiglyd, nes yr ydym, wrth edrych arnynt, yn teimlo gwirionedd geiriau yr ysgrifenydd santaidd, "Dyfroedda dreuliant y ceryg." Nid yw trigolion Cwm Bradwen yn Iluosog, gan nad oes ynddo ond ychydig dyddynod, ac er fod ei drigolion yn y byd, eto, nid ydynt yn gweled ond ychydig o hono, am fod y lle mor neillduedig a digyrchfa. Mewn cysylltiad à Braich y Drum, a Cheunant y Dibyn, y mae hanes Olwen yn dyfod i'r amlwg. Yr oedd Olwen yn ferch i gloddiwr llafurus, da ei air, tebyg i'r rhai a geir yn gyffredin yn rhanau gorllewinol Cymru. Treuliodd ei oes mewn sobrwydd a daioni, ac wedi byr afiechyd, ehedodd ei enaid i wlad well. Yr oedd ei dŷ y pryd hwnw yn sefyll ar làn afon chwerw, donog, a chwyddedig, ac yr oedd rhywbeth effeithiol iawn yn ei angladd o herwydd hyny. Cyn cychwyn y corph, darllenid y bedwerydd bennod ar ddeg o lyfr Job, canwyd yr hen emyn Cymreig anwyl, " Yn y dyfroedd mawr a'r tonau Nid oes neb a ddeil fy mhen," &c. ac yr oedd rhuad yr afon a sŵn y gàn yn cymysgu yn rhyfeddol á'u gilydd. Ond yr oedd Iorwerth Dafydd, erbyn hyn, wedi myned drwy afon ddyfnach ei llif, ac uwch ei thònau, nâ'r hon a redai o fiaen drws y tý, i'r hwn nid ydoedd i ddychwelyd mwyach. Gadawodd ar ei ol weddw a phedwar o blant, dau fab, a dwy ferch: O'r rhai hyn, Olwen oedd yr ieuangaf, ac nid hawdd y gallesid gweled geneth wledig fwy gweddaidd yr olwg arni. Yr oedd yn gydnerth yn ei gwneuthur- iad, yn wylaidd a Uariaidd ei hedrychiad, ac yn un o'r merched hyny y gallir darllen ar eu grudd ragoroldeb a dyfnder teimlad eu calon. Yr oedd wedi dechreu gwasanaëthu pan fu farw ei thad, ac felly nid oedd neb o'r teulu yn pwyso ar yr hen wraig, eu mam, a gallent oll estyn rhyw ychydig yn flyn- eddol iddi, a chadwai hithau gartref iddynt oll, lle y gallent dreulio dydd Nadolig yn nghyd mewn cysur, neu aros diwrnod a haner i drwsio eu dillad, os byddent yn newid lle ar ddydd Calanmai. Priododd y plant hynaf yn