Skip to main content

Y GYMRAES. Cyf. I.] TACHWEDD, 1850. [Rhif. 11. FY M;AM. Ei Phriodas—Y P.LiVNT—Helyntion BYDOL. / ft ■__ Symudodd fy matn o Ddolgellau i'r Hengwrtuchaf, yn ymyl Rhydymain, ac yno y priododd. Fy nhad öedd fab hynaf dau hên bererin a fuont yn aeîodau yn Rhydymain am flyneddoedd meithion, John a Margaret Evans o'r Esgeiriau. Gorphenodd ef ei yrfa yn 1827, a hithau yn 1845, ill dau mewn oedran teg. Buont ddiwyd gyda phethau y bywyd hwn, a buont yn ffyddlon yn eu hymwneud à moddion gras. Anfynych, tra y gallodd ymsymud, er fod ei golwg wedi pallu, y byddai fy nain yn absenol o Rydymain ; a phan oedd ei chnawd a'i chalon yn pallu, hoffus iawn oedd ganddi gael cyfarfod gweddi yn y tý. Tangnefedd i'w llwch! yn ol eu gwybodaeth buont ffyddlon. Nid oedd fy nhad yn grefyddwr pan y priododd. O herwydd hyn, ymneillduodd fy mam o gymundeb yr eglwys. Anhyall i mi ddywedyd i ba ddyben, oblegid dychwelodd yn ei hol yn ddioed. Y prawf cadarnaf ei bod wedi "ieuo yn anghymharus" oedd fod yn agos i bymtheg mlynedd o wahaniaeth oedran rhyngddi hi a fy nhad. Yr oedd hyn yn wall mewn barn, yn enwedig gan fod yr henaint o'i thu hi. Pa mor ddedwydd bynag y dichon amgylchiadau teuluaidd fod, teimlir hyn i ryw raddau. Ý mae undeb teimlad a chydym- drech yn ddiffygiol. Gwywa un tra y mae y llall yn nghryfder ei nerth, a'i fronau yn llawn llaeth. Ond yr wyf yn methu a deall gwerth adferiad eg- Iwysig o drosedd ag y parheir ynddo, ac nas gellir edifarhau am dano. Pe y gellid edifarhau, byddai rheswm mewn adferiad o dan ddysgyblaeth. Ar yr un pryd, caniateir i mi grybwyll fy mod yn credu yn gadarn nad oes nemawr rwystr mwy effeithiol i rym a llwyddiant crefydd na phriodasau rhwng y credadyn á'r anghredadyn. Nis gall crefydd deuluaidd fiaguro, ac nis gall y penteulu rodio yn ngliyd i gynteddoedd Arglwydd y lluoedd. Bydolir meddwl y proffesedig y rhan fynychaf. Yn anffodus i ewyilys dyn, gwírion- edd perffaith ydyw nas geliir "gwasanaethu dau Arglwydd." Arbedwyd i fy raam y trallodion hyn drwy i fy nhad ymuno â chrefydd yn fuan. Os nad wyf yn camgymeryd, efe oedd y cyntaf a dderbyniwyd yn Nolgellau yn yr oes hon. Nid oedd dim o. ddysgyblion yr "athraw parchedig" Hugh Owen o Fronyclydwr, y rhai gynt a ymgasglent yn y "Tŷ Cyfarfod," yn aros. O'r Brithdir a Rhydymain yr ail ddygwyd hadau ei egwyddorion i'w hau yn Nol- gellau—ar y cyntaf yn Mhenbrj'nglas, ac wedi hyny yn yr addoldy presenol. Y mae yn awr ffrwyth lawer iawn. Ni b'ti amgylchiadau teuluaidd fy mam ond siomedig a thrallodus. Bu farw