Skip to main content

T GYMEAES. Cyf. I.] AWST, 1850. [Rhif. 8. &trg0ft'0tU HANES CWM GWENEN. Llythyr Y, Gan Cymro Bach. Trwy fy mod yn treulio peth o fy amser yn y brif ddinas, yn gystal ag ya Nghwm Gwenen, yr ydwyf wedi cael hamdden i sylwi ar wahanol amgylch- iadau pobl yn y ddau le enwog hyn. Yrydwyfwedi nodi llawer o bethau, ar lechau íÿ nghof, a welais ac a glywais yn y ddau le uchod ; ac ni fyddai yn anfuddiol i lawer yn Nghymru dawel weled rhai o honynt ar ddalenau y Gymraes. Cynygiaf yn y llythyr hwn roddi darlun o'r gwahaniaeth sydd rhwng gwraig y gweithiwr yn Llun- dain, a gwraig y gweithiwr yn Nghwm Gwenen. Ac os bydd i ambell nn o ddiraddwyr merched Cwm Gwenen, a chefnogwyr yr ysbíwyr a'r llyfrau hyny a elwir " Blue Books," i ddarllen a ganlyn, fe allai y bydd i'r dirmygwyr hyny feddwl y gallai fod rhywbetu yn eu cyhuddiadau yn gamsyniol. Mi gaf neillduo dwy o wragedd yn engreifftiau,—Martha Jones, gwraig William Jones, saer maen, yn Abergwenen, a Mrs. Thomson, gwraig i ddyn o'r an grefft yn Llundain. Rhaid cadw mewn cof fod y ddau uchod yn weithwyr da, yn ddynion diwyd yn eu galwedigaeth, a phob un o honynt ar y cyntaf yn ofalus iawn am ei deulu; ac y mae yn eithaf tebygol y buasai pob un o honynt yn parhau felly, pe buasai gan y naill gystal gwraig ag oedd gan y llall! Dechreuwn gyda hanes Mrs. Thomson ; a chofiwn mai Mrs. Thomson y mỳnai hi gael ei galw, oblegid mae arferion y Saeson yn gofyn i ni alw pob dynes yn Lady neu yn Mrs., pe byddai ei hamgylchiadaumordloted âllygoden eglwys plwyf Abergwesyn. Mrs. Thomson, pan yn ferch ieuanc, a dreuliai bob dimai a enillai am ddillad gwychion, ac ymwisgai yn mhell uwchlaw ei gradd; a dywedai un o'i chymydogesau wrthyf fod arogl yr inJc ar ei gwisg briodas. Nid peth anghyffredin iawn yn Llundain ! Y flwyddyn gyntaf wedi priodi aeth pethau yn mlaen yn weddolfach; ond yr oedd John Thom- son yn dechreu teimlo gofid wrth weled ei wraig gymaintambobpethnewydd a welai gan foneddigesau y dref, a chymaint ei hawydd am fyned allan ar bob Sabboth i'r gerddi gwledda oddiamgylch y brif ddinas, yr hyn oedd yn myned â'i holl enill ef yn yr wythnos. Dechreuodd ymresymu â hi; aeth Madum yn ofnadwy—syrthiodd i lewyg y noson hono—pwdodd, a phwdodd, a phaugodd am wythnos wedi hyny, a gwaeth waeth, gwaeth waeth o ddydd i ddydd yr aeth pethau.