Skip to main content

Y GYMBAES.___ Ctf. I.] MEHEFIN, 1850. [Rhif. 6. &lrgûit0tu HANES CWM GWENEN.—GWRAIG Y MEDDWYN. Llythîtr III. Gan Cymro Bach. Er na wyddai Gwenllian Jones ond ychydig neu ddim am hanes Livia, ac mae yn eithaf tebyg na chlywodd am ei henw—os clywodd am Augustus Caesar gan yr hen weinidog, dyna yr eithaf; ond rhyw ffordd neu gilydd hi ddysgodd drin Adda yn yr un dull ag y llywodraethai hono yr ymerawdwr, a hyny oedd, trwy bob tynerwch ac ufudd-dod yn mhob peth rhesymol. Ffwl o ddyn yw yr adyn a ymddygo fel tyrant yn eu deulu; a phersonoliaeth o anwybod- aeth yw y ddynes a gynygo i fyned â'r deyrnwialen o law ei phriod. Dysgodd Gwenllian Joues y gwersi uchod, a gwelai yn fuan y gallai hi wneuthur fel y mynai â'r dyn oedd wedi bod mor anhawdd i'w drin. Ond rhaid peidio anghofìo i ni adael Adda Jones dan grafangau ellyllon yn y Hythyr diweddaf, a'r sarff dorchog yn ymblethu o amgylch iddo, ac yn ei frathu yn ofnadwy. Tywydd digon ystormllyd welodd Adda yr wythnos hono—-dyddiau helbulus a nosweithiau blinion, heb gwsg i'w lygaid na hûn i'w amrantau. Ond y Sabboth a ddaeth, O hyfryd ddydd! yr oedd yn dda gan Adda Jones ei weled. Cychwynodd i'r capel gyda Gwenllian; ac fel y bydd amgylchiadau hynod yn dygwydd, yr hen weinidog y tro hwnw a bregethodd yn erbyn meddwdod. Gweinidog duwiol Cwm Gwenen a ddarluniai ddrygedd meddwdod nes yr oedd Adda yn teimlo yn ofnadwy, ac yn wylo, &c. Yn y man teimlodd yr Iren feddwl yn ymaflyd ynddo—fod Gwenllian wedi dweyd am ei holl ddrygau wrth Mr. Williams, oblegid yr oedd yn dangos Adda yn ei liw ei hnn, wrtli ddarlunio y meddwyn, er nad oedd (am a wn I) yn meddwl am Adda Jones. Gofynodd yn unionwedi myned adref, " Gweni anwyl, pahara yr oeddit yn dywedyd am fy holl dricses I wrth Mr. Williams;" gwadai Gwenllian—a dywedai Adda, " Wel, yr wyf yn credu dy air di, na ddywedaist ti dy hunan wrth Mr. Williams, oblegid mi wn na ddywedi anwiredd wrthyf, ond riiaid dy fod wedi clebran rhyw beth wrth rai o'r aelodau, ac y mae y rhai hyny wedi adrodd y cwbl wrth yr hen wejnidog." Deallodd Gwenllian beth oedd achos y clefyd oedd ar feddwl Adda, ac esboniodd iddo mai ei gyd- wybod ei hun oedd yn llefaru. Synodd Adda! ymddygai yn sobr iawn am rai dyddiau. Y Sabboth nesaf pregethodd Mr. WilÜams oddiwrtli Mat. xi, 28, "Deuwch ataf bawb sydd yn flinderog," &c. Pwnc anwyl— pwncyr oeddar Adda ei eisiau, oblegid yr oeddyn gweled ei huu yn bechaduí