Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GYIRAES. Cyf. I.] MAI, 1850. [Rhif. 5. &îrgoftotu HANES CWM GWENEN.—GWRAIG Y MEDDWYN. Llythír II. Gan Cymro Bach. "Mae gobaith am weled y meddwyn yn sobr; ond nid oes un gobaith ara ^eled y dwl yn gall, na'r diog yn ddiwyd." Fel hyn yr atebai Gwenllian Jones un o'i chymydogion, pan oedd hono yn beio ar Adda druan ! Y gwir Ì/Vf, nid oedd gan Gweni alluoedd i ddyoddef gwrando ar un dyn na dynes yn «eio Adda.* Byddai Gwenllian Jones yn myned yn o aml i gapel Cwm Gwenen i wrando pregethau, a llwyddai weithiau i gael Adda gyda hi. ÿíid ^ld un dyn yn y Cwm yn fwy diniwed nag Adda, na neb yn fwy diwyd pan fyddai efe yn cadw oddiwrth y ddiod. Yr oedd yn dda gan bawb am dano trwy yt holl Gwm. Rhaid i ni yn bresenol alw i gof fod ein lìythyr diweddaf yn ^ybenu yn y geiriau canlynol, " Mi ddwaf gyda ti i'r capel y fory." Yr oedd Gweni wediunogyda'raddolwyr yn y Cwm, ac fe wyddai Adda y byddai addo Jfiyned gyda hi i'r capel yn ei boddio yn anghyífredin; ac fe wyddai Adda «efyd f0{j Hawer iawn o gyfnewidiad er gwell yn ymddangos yn ei holl ym- ^dygiad. Yn y dyddiau gynt byddai Gwenllian yn goHwng ei thafod yn òfnadwy pan fyddai Adda wedi meddwi; ond yn awr, ymresymai ag ef ar ol Sjdo sobri—dywedai lawer o bethau am y canlyniadau o fyw yn annuwiol,&e. ^ygwyddodd Adda ryw dro ei chlywed mewn man dirgel yn gweddio drosto, W hyn a efFeithiodd yn anghyffredin ar ei feddwl. Gwelwyd ef yn drist am ^dyddian, a dywedai weithiau, " Gweni, nid âf mwy at yr hen ddiod yna ; ^addeu Gweni, am ddim cam a wnaethura â thi ac â'r plant, a gobeitliio hefyd y '«Hddeu yr Hollalluog i mi." Ar hyn torodd Adda allan i grio yn dost, a Gweni yn wylo gydag ef, a'r plant yn Uefain wrth eu gweled, heb wybod yn y byd am beth. Boreu y Sul a ddaeth, ac i'r capel yr aeth yr holl deulti, a Phregethodd yr hen Williams ar gwymp Adda, heb feddwl, am a wn i, am 8wymp Adda Jones! Ond tybiai y meddwyn, druan, fod y gweinidog yn ^rgydio ato bob gair. Meddyliai Adda fod pob saeth yn y bregeth yn cael ei lanelu ato ef, ac yr oedd yn cael ei glwyfo yn ddwfn. Wrth drin cwymp yr en Adda, y pregethwr a ddarluniai y pechod o anufudd-dod yn dra ofnadwy. ys caf fyw ychydig o amser eto, ysgrifiaf atoch, Mr. Gol., hanesion amgylchiadau swrajg y dyn dwl, ac amgylchiadau gwraig y dyn diog. [Da iawn, Syr. Byw fyddo ' »-yairo Bach.]