Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GYMRAES. Cyf. I.] MAWRTH, 1850. [Rhif. 3. ^îrgcftotn GWRAIG CAIN. Nid oes genym sicrwydd diymwad o'i henw. Ni chynwys ei chofiant ond ychydig hysbysrwydd am dani. Megys ag y pydra enw y drygionus, felly y dadfeilia enwau pawb a berthynant iddo. Y mae anwiredd yn eu hysn fe.l rhwd. Dichon fod enw y greadures anffodus hon wedi ei lwyr ddifa cyn dyddiau Moses. Gan nad beth am hyny, ni osododd ond ychydig o'i chofiant ar gof a chadw. Nis gallwn ychwaith olrliain ei hachau. Hi a ddaeth megys o fynwes ý «os, ac a giliodd i grombil y tywyllwch. Adroddodd yr hen athrawon ludd- ewig lawer o'u breuddwydion am dani. Dywed Saidus Patricides, patriarch Alexandria ei bod yn ferch i Adda, ac o ganlyniad yn chwaer i Cain. Os felly, yr oedd y briodas o fewn y graddau carenydd. Ond er mwyn rhoddi golwg well ar hyn, dywedir i Efa ymddwyn gyfeiiliaid, sef Cain a'i chwaer Azron, ac Abel a'i chwaer Awin, ac na-phriodwyd hwy yn ol oed. Rhodd- wyd Awin i Cain, ac Azron i Abel. Gwnaed y cyfnewidiad hwn, meddir, er dangos na ddylai brodyr briodi eu chwiorydd. Golygid y cyfryw briodasau yn halogedig ac afréolaidd gan Iuddewon a Phaganiaid. Ond gyda phob dyledus barch i Iuddew a Phagan, nid ymddengys fod amgylchiadau borau y byd yn caniatâu yn amgenach. Nid yw angenrheidrwydd yn cydnabod nn ddeddf. Barnai ereill mai nid chwaer Cain oedd ei wraig, ond perthynas bellach iddo. Ytì ol traddodiadau Dwyreiniol, bu i Adda dri ar ddeg ar ugain o feibion, a saith ar ugain o ferched ; a chan y tybir fod oed y byd yn gant ac >vyth ar ugain o flynyddoedd pan y lladdodd Cain Abel ei frawd, bernir y gallasai fod lluaws rnawr o drigolion erbyn hyn ar wyneb y ddaear. Ond ej- manyled moesau y dyb hon, nis gwyddom pa fodd y gallasai fod yn y byd drigolion, heb i frodyr briodi eu chwiorydd ar y cyntaf. Er y byddai hyn ya «hi lioes ni yn eithafion anmhriodoldeb ac anweddusrwydd, nid oedd y pryd bwnw ond un o ddyledswyddau ac angenrheidiau egluraf natur. Hawdd canfod oddiwrth hyn nas gallwn nodi amser priodas gwraig Cain. Barna yr Athrawon luddewig iddi bfiodi ei gwr cyn iddo ladd ei frawd. O's «ad felìy y bu, rhaid ei bod yn ddychrynllyd ddrygionus. Yr oedd ysgelerder >' weithred mor ofnadwy, a chosb y Uofrudd mor drom, nes yw yn anhawdd eredu i un ddynes galon-dyner ei briodi pan oedd llef gwaed ei frawd yn dolefain ar ei ol o'r ddaear. Mwy tebyg o lawer iddi ei gymeryd, ër gwell ac er gwaeth, pan yr oedd yn gonest a diwyd lafurio y ddaear. Ac os gwnaed Adda, y dyn cyntaf, yn druenus drwy ei wraig, wele wraigyr ail ddyn yn yfed gwaddod wermodaidd cwpan gofid o law ei gwr.