Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GYMJUES. IONAWR, 1850. ANERCHIAD. Wrth gychwyn cyhoedcliad newydd, dysgwylir yn gyffredin am ìyw fynegiad o'i ddyben, ac o'r egwyddorion ar y rhai y bwriedir ei ddwyn yn mlaen. Mae y disgwyliad yn rhesymol, fel na cham- ddealler amcan y neb a'i cyhoeddo, fel y galìer barnu am ypriodol- deb o'i gynorthwyo, ac fel nad ymddangoso fel " un yn curo yr awyr." Gan fod " Y Gymraes " yn eymeryd llwybr gwahanol i'r un cyhoeddiad í ^ymreig arall, ac yn eyfeirio at ddosparth gwahanol, y mae.yn eithaf naturiol ymofyn am eglurhad o'r dyben sydd mewn golwg ac o'r dull y bwriedir ei gyrhaedd. Hyd yn hyn nid ydyw Merched Ctmeü wedi derbyn y sylw a deilynga eu sefyllfa, nac wedi mwynhau cyfleusderau cydradd a Meibion ein gwlad. Nid oes cymaint o sylw wedi ei dalu i'w haddysg, nid oes un cyhoeddiad cyfnodol wedi ei amcanu at eu gwasanaeth, ac nid oes nemawr 'lyfrau wedi eu cyhoeddi er eu lles. Os rhoddir ysgol i rai o'r plant, y meibion yn gyffredin sydd yn derbyn y "fendith." Os rhaid i rai o honynt adael yr ysgol ó fiaen ereill, syrthia y coelbren ar y merched. Ac os na elìir rhoddi addysg ond i rai, gadewir y merched o'r neilldu. Mewn llawer amgylchiad ystyrir addysg fenywaidd yn afreidiol. Tybir nad oes eisiau i Ferch wybod rhagor am Ddaearyddiaeth na deall am bob cornel o'r tý, a bod yn hysbys o'r íFordd i'r farchnad. Y mae gallu •rhoddi croes ar ol ei henw ar ddydd ei phriodas yn ddigon o adna- byddiaeth iddi o ysgrifenu; ac os gall ddywedyd pa sawl ceiniog sydd mewn swllt, pa sawl swllt sydd mewn punt, a pha sawl wns mewn pwys, bydd yn deall llawn ddigon o Rifyddeg. Nid oes eisiau iddi wybod rhagor am Fferyüiaeth na deaîl pa faint o halen i'w roddi yn yr ymenyn, y caws, neu y cawl, a gallu gwneud cwpanaid o dê yn lled drefnus. Ceuir trysorau anian rhagddi. Blodeua y maes, ond nid iddi hi. Y mae dydd i ddydd yn traethu ymadrodd, ond nid wrthi hi; a nos i nos yn dangos gwybodaeth, ond ni cha hi gyfranogi o honi. Wrthi hi y mae llais hanesydd- iaeth yn ddistaw; ac er ei bod yn addysgu y byd, gadewir hi ei hunan yn ddi-addysg. \ Y mae gan yr Eglwyswr ei Haul a'i Gymro yn dadleu dros ei egwyddorion neillduol; cynwysir trysorau y Wesleyad yn ei Eur- A-2 -