Skip to main content

Y TRÁETHODYDD. Y WIK EGLWYS. I GAEL allan natur y wir Eglwys, rhaid i ni astudio y Testament Newydd. Rhaid i ni edrych i eiriau Iesu Grist, dysgeidiaeth ac ymarfer yr Apostolion, ynghyd a chyfansoddiad yr Eglwysi cyntaf, a'u dull o addoli, pan dan arweiniad a llywodraethiad dynion o Ddwyfol ysbrydoliaeth. Nid ydyw rhai ysgrifenwyr, yn eu traethiadau ar faterion Eglwysig, yn talu ond ychydig sylw i'r Testament Newydd; y mae a fynnont hwy yn bennaf âg opiniwn ac arfer Tadau Cristionogol y tair canrif cyntaf. Yn awr nid wyf fi yn ail i neb yn fy edmygedd o'r Tadau Cristionogol. Mae enwau Polycarp, Ignatius, Clement, a Justin, ac ereill, yn meddu gallu i swyno, ie hyd heddyw. Mor fyw ac ysol ydoedd eu sêl ! Mor wych y daliasant erledigaeth ! Gyda'r fath ddewrder, ie gyda'r fath lawenydd, y dioddefodd rhai o honynt ferthyrdod er mwyn enw Crist! Ni allwn lai nag edmygu y Tadau Cristionogol. Ond er hynny, ni fynnwn eu gwneyd yn llys uchaf o apêl ar gwestiynau o athrawiaeth neu drefn. Nid ydynt yn anfFaeled- ig; nid oedd ganddynt unrhyw allu i'w diogelu rhag gwneyd cam- gymeriadau mwy na ninnau. A mwy, y mae yn sicr fod camgymeriad- au wedi dechreu ymlusgo i mewn i'r Eglwys Gristionogol yn bur fuan ar ol marwolaeth yr Apostolion. Codent o ddwy o wahanol ffyuon- hellau; oddiwrth ddychweledigion paganaidd, ac oddiwrth ddychwel- edigion Iddewig. Nid oedd y dynion hyn, er wedi derbyn Cristion- ogaeth, ac ymgrymu i enw cysegredig yr Iesu, wedi ymddiosg yn gwbl oddiwrth ddylanwad eu crefyddau blaenorol. Trwy eu hofferynoliaeth hwy fe daflwyd yr Eglwys Gristionogol i fold newydd, a daeth yn fuan ì gymeryd arni ffurf newydd. Cyfeiriaf at y gwasanaeth cyhoeddus fel engraifft o hyn. Ni allai dim fod yn fwy syml na gwasanaeth y Cristionogion cyntaf. Ymgynhullent yn enw yr Iesu er mwyn gweddi a niawl, er addysg ac adeiladaeth eu gilydd. Nid oedd ganddynt wisg- °edd na ffurfwasanaeth wedi ei drefnu, na dim seremoniau rhwysgfawr. Nid oedd eu gwasanaeth ond ymostyngiad syml i'r Gwaredwr Dwyfol. Ond cyn diwedd yr ail ganrif, yr oedd y symledd yma wedi rhoi ffordd i rwysg a seremoni. Yr oedd gweinidog yr Eglwys wedi dyfod yn urddasog eglwysig ac yn offeiriad ; yr oedd bwrdd yr Arglwydd wedi ^yfod yn allor ; yr oedd sacrament y swper sanctaidd wedi dyfod yn aberth a offrymid i Dduw; a'r gwasanaeth syral wedi dyfod yn ffurf rwysgfawr. Dyma'r pwynt cyntaf y dymunwn alw «ylw ato, Nad allwn ëael allan natur gwir Eglwys oddiwrth gyfansoddiad ac arferion yr