Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

L1VERP00L A'R GAETHF.YSNACH. History of the Lherpool Prŵateers and Letters of Marque, with an Account of the Lẁerpool Slave Trade. By Gomer Williams. II. Yn unol â fy addewid, yr wyf yn bwriadu yn yr ysgrif hon roddi hanes cysylltiad Liverpool â'r Gaethfasnach, yn seiliedig ar lyfr ein 'íydwladwr doniol a llafur-fawr, Mr. Gomer Williams. Yr wyf yn cofio ymddiddan â'r diweddar Gwilym Hiraethog un- waith, ar ol brwydr etholiadol yn Liverpool, pan, wrth gwrs, yr etholwyd Toriaid. Yr oedd yr hen frawd yn ddig odiaeth o herwydd yr amgylchiad, a dywedai, " Ond pa ryfedd ì Y mae yr hen dref yma yn drewi byth gan arogl y gaethfasnach." Ydyw, y mae cysylltiad "yr heu dref " â'r fasnach ffiaidd a chreulon honno, yn ddalen ddu yn ei hanes, ac y mae ei chynnydd mewn cyfoeth wedi ei seilio, i raddau helaeth, ar y gaethfasnach. Dechreuodd Prydain fasnachu gyntaf âg Affrica yn 1553, pryd yr hwyliodd dwy long o Portsmouth i Guinea a Henin. Yn y flwyddyn ganlynol cariwyd pump o ddynion duon i'r wlad hon. Syr John Hawkins, capten llong yn amser y frenhines Elizabeth, sydd yn meddu yr anghlod o fod y cyntaf i fasnachu mewn dwyn caethion duon o AíFrica yma. Mae yn ymddangos fod y frenhines yn dychrynu, ar y dechreu, wrth feddwl am ddwyn dynion heb eu cydsyniad, a'u gwneyd yn gaethion yn y wlad hon, a dywedai ei bod yn ofni gwg y Nefoedd ar y fath waith. Ond perswadiwyd hi, gellid meddwl, fod popeth yn iawn, oblegid yn 1588 darfu iddi ganiatau masnach âg Affrica. Yn 1618 ffurfiwyd cwmpeini i fasnachu âg Affrica; ac yn 1623—5, pan ffuifiwyd trefedigaeth.au Barbadoes ac Antigua, ymdaflodd Prydain i'r fasnach mewn caethion gyda'r un ynni ag y darfu pobl Ysbaen a Phortugal. Yn 1689 ffurfiwyd cwmpeini, ac ymrwymodd i gyflenwi Icdia'r Gorllewin Yspaenaidd â chaethion. Yn 1698 torrodd y cwm- peini hwnnw i fyny, a thaflwyd y fasnach yn agored ; a syrthiodd yn gyfangwbl bron i ddwylaw Llundain a Bristol. Yn gynnar yn y ddeu- nawfed ganrif, pa foJd bynnag, daeth Liverpool i mewn i'r fasnach. Cariwyd nwyddau cotwm Manchester i India'r Gorllewin ac i America. Cynhyddodd rhif llongau Liverpool, a llenwid ei hystordai â rum, siwgr, a chynhyrchion ereill ynysoedd India'r Gorllewin. Ymrodd- odd Bristol, gan hynny, yn fwy llwyr i'r fasnach mewn caethion, a Llundain yr un modd, nes y cynhyddodd nifer eu llongau yn ddirfawr. Ond cafwyd y gallai Liverpool gario " lìwythi o Negroaid rhagorol" yn rhatach, am reswm nad âf yn awr i'w nodi, a syrthiodd y fasnach yn fwy llwyr fyth i ddwylaw y dref honuo. Yn 1753 yr oedd ganddi 88 o longau yn masnachu âg Affrica, a phob un o honynt, ond un, yn caiio caethion. Gallai y llongau hyn gario 25,000 o Negroaid ar draws )' môr. Buan y daeth y fasnach ofnadwy hon yn un o'r rhai mwyaf enillfawr. Adeiladwyd llongau yn bwrpasol ar gyfer y fasnach yn y cadlesydd ar lannau y Mersey, a dechreuwyd arogli drewdod y gaethfasnach yn gymysg âg arogl y rum a'r pŷg yn nociau Liverpool.