Skip to main content

Y TRAETHODYDD. PROFFWYDOLIAETH. YN EI NHATUR, EI CHYNNYDD, A'I GWASANAETH. Y MAE i'r gair Proífwydoliaeth ystyr hynod o lawn. Fel y'i defnyddir yn gyffredin yn awr, golyga rhag-ddywedyd,—mynegu ymlaen llaw am bethau sydd i gymeryd lle. Ond yn ol ystyr wreiddiol y gair a ddefnyddir yn Hebraeg (nâbi), neu yn y Groeg (7^09171-^), ni ellir raeddwl mai dyna ei unig ystyr. Mae y gwreiddair Hebraeg yn dynodi person sydd yn "arllwys allan " megis, gan ddatganiadau ysbrydol 0 dan Ddwyfol ddylanwad, neu un sydd yn tywallt allan eiriau,— yn " bwrlymu " megis, o fFynnon fewnol fyw. Y proffwyd yn Israel oedd y gŵr a drosglwyddai faich y meddwl Dwyfol a ymddiriedasid iddo, a wnelai yn wybyddus fwriadau Duw. Heblaw y gair mwy awdurdodol nâbi, y mae yn yr Hebraeg ddau air arall i ddynodi proffwyd, sef roëh a chozeh, y ddau yn arwyddocau un yn gweìtd— —" gweledydd." Fe'u cyfieithir yn y Deg a Thrigain yn j3\ẃr<pv> neu 6pâ>v, weithiau trwy Trpo^iýr^p, ac yu y Cyfieithiad Cymraeg yn " weledydd." Ceir y tri gair yn 1 Chron. xxix. 29, ac ymddanghosant yno yn caei eu cyferbynnu. " Ac am weithredoedd cyntaf a diweddaf y brenin Dafydd, wele y maent yn ysgrifenedig yng ngeiriau Samuel y gweledydd (roëh), ac yug ngeiriau Nathan y proffwyd (nâbi), ac yng ngeitiau Gad y gweledydd (chozeh)" Deil Dr. W. R. Smith, yn ei erthygl ar y gair Proffwyd yn yr Encyclopedia Britannica, mai gweledydd (ro'èh a chozeh) oedd yr ÍHebraeg gwreiddiol am broffwyd. Nabi, yn oL ei farn ef, oedd air Oanaanëaidd, yn unig wedi ei fabwysiadu gan yr Iddewon. Mae gweledydd (roëh) yn deitl a ddefnyddir bron yn gwbl am Samuel. Ni ddefnyddif ef ond deng waith yn y Beibl, ac mewn saith o'r deg fe'i cymhwysir ato ef. Am y gwahauiaeth ihwng y tri gair gwêl Bìble Dictionary Dr. W. Smith. Nid ydyw y syniad o ragddywedyd, wrth reswm, yn cael ei gau allan; ond nid ydyw yn rhan wreiddiol a hanfodol 0 ystyr y geiriau a ddefnyddir i ddynodi protfwyd; ac nid ydoe id rhag- «^lywedyd o gwbl, 0 angenrheidrwydd, yn rhan o'r swydd broffwydol. Fe welir hyn oddiwrth y defnydd a wneir o'r gair yn y Cyfieithiad Cymraeg. Yr oedd meibion Asaph " ar y delyn yn proffwydo, i foliannu ac i glodfori yr Arglwydd." Gwnaent hynny trwy ganu, neu ddatgan moliant Duw dau ddylanwad Ysbryd yr Arglwydd (1 Chron. xxv. 3). Dywedir hefyd am Phylip yr efengylwr, " Ac i hwn yr oedd pedair o ferched 0 forwynion, yn proffwydo," yn yr ystyr yn unig ueu