Skip to main content

Y TRAETHODYDD, Y PULPUD YN EI NODWEDD ADDYSGOL. Xid oes yr un nodwedd anilycach yn perthyn i grefydd yr Arglwydd Iesu Grist na'r lle uchel a roddir i ddysgu yuddi, ac ynddi hi y ceir y ddysgeidiaeth ucliaf. Yr oedd addysg feddyliol a nioesol, heb son am addysg ysbrydol, yn dra dieithr i grefyddau paganaidd y byd. Nid oedd pregethu o un math yn hysbys ynddynt, gyda'r eithriad o grefydd Budha, yr lion a gyfarwyddai ei dilynwyr i ddiffodd pob dyniuniad, mewn trefn i gyrraedd nefoedd o ddihanfodiad. Y niae yn wir y dygai rhai paganiaid phüosophi i fod yn llawforwyn i foesoldeb; ond nid i grefydd yr ymddiriedid y gwasanaeth hwnnw gan neb o honynt. Y mae crefydd Crist, nid yn unig i'w dysgu, ond y mae yn dysgu; ac y mae Oristnogaeth wedi byw trwy bregethu i ddeall a chydwybod dynion. Pregethwr perffaith ydoedd ei Sylf aenydd, a'i ysbryd Ef sydd yn creu pregethwyr ar hyd yr oesoedd. A chan fod pregethu yn cael lle mor anilwg yng nghrefydd Crist, nis gall safon y pulpud, o rau gras a dawn a dysgeidiaeth, lai na bod yn fater y pryder dwysaf. Pa safle a roddir i'r pulpud yn ein gwlad yn y d}"ddiau hyn, sydd gwestiwn o bwys mawr; a chwestiwn ag y teimla dynion, o wahanol syniadau am dauo, awydd i'w ofyn. Perswadia rhai eu hunain i gredu nad ydyw yn gymaint o nerth ag y bu, ac na welir mo hono eto yn enuill y nerth a gollwyd ganddo. Clywir lli'aws o'i gyfeilliou yn methu peidio datgan graddau o bryder yn ei gylch, a cheir cryn nifer o rai nad oes ynddynt fawr o gydymdeimlad ag ef yn darogan yn hyf nas gall dynion barhau i bregethu yn hir iawn eto, ac nas gall ereill fyned i'w gwrando. Y mae llyfrau yn llibsogi, a gwybodaeth yn amlhau, a dynion yn mynd i arneu ai nid allant dreulio eu hamser i well defnydd wrth ddarllen llyfrau gartref ar y Saboth; cânt yn y rhai hynny, meddant, fwy o ffrwyth meddwl, a hwnnw wedi ei osod yn fwy trefnus nag a allant gacl wrth wrando yr uu pregethwr. Proffwydir gan rai, gyda graddau helaeth o anffaeledigrwydd, fod oes pregethu wedi mynd heibio eisoes, fod yr hen sefydliad wedi trengu, ac nas gall y dydd y cleddir y marw o'r golwg ddim bod ymhell. Nid ydyw proffwydi fel hyn yn ddieithr, na phro'ffwydoliaethau fel hyn yn ncwydd. Y mae y proffwydi wedi mynd allan i'r byd ers talm o amser, ac y mae y proffwydoliaethau wedi eu cyhoeddi ers tro, ond nid oes i'w gweld arwyddion ' o'u cyflawniad. Na, y mae mewn pregethu, yn annibynuol ar ei fod yn sefydliad dwyfol, ddefnydd byw ynghanol pob cyfnewidiad a chynnydd. Y mac yr elfen o bersonoliaeth ynddo, nas gellir cael dim a wna ei lle i fyuy. Nis gall amlhau llyfrau fynd a lle Hais a phresenoldeb y dyn ; ac yn y dyddiau hyn, pan y mae llyfrau yn Ui'osogi yn gyflym ymhob cangen o ddysg, y mae darlithiau yn amlhau üefyd. Ac nid ydyw y dyddordeb i wrando pregethau, mewn gwirionedd,