Skip to main content

Y TRAETHODYDD, MR. DAVÍB DAVIES. Y mae Cymru lawer yn wacach o golli ein cydwladwr galluog a charedig o Landinam. Yr oedd ei enw ef ers llawer o flynyddoedd bellach yn dra adna- byddus yn ein gwlad, a llanwai le tra mawr ym mywyd ei genedl. Yr oedd iddo ddynoliaeth gyflawn a chadarn, ac nid oedd terfyu ar ei ynni. Yr oedd ei anturiaethau yn fawrion, a phrofasant yn hynod o lwyddiannus. Ac heblaw y darfu i'w lwyddiant ddwyn iddo ef ei hun ddirfawr gyfoeth, fe agorodd efe ad- noddau ei wlad hefyd yn y fath fodd fel ag i brofi yn llwyddiant i fìloedd lawer. Yn goron hefyd ar y cwbl, yr oedd ei gymeriad trwy ei oes yn bur, yn hardd, ac yn hawddgar iawn, ac fe gafodd y fraint o farchnata gyda'r talentau a ymddir- iedwyd i'w ofal fel daionus oruchwyliwr ar bethau a roisid yn ei law gan Ddwyf ol Diriondeb, ac y disgwylid iddo ryw ddiwrnod roddi cyfrif am danynt i Arglwydd nef a daear. Yr oedd ei Angladd yn un o'r rhai hynotaf a welwyd un amser yn ein gwlad. Er fod Llandinam ymhell o fod yn hawdd ei chyrraedd, eto yr oedd yno dyrfa fawr iawn wedi dyfod ynghyd o bob cwr ar y Dywysogaeth, ac amryw o bellder mawr mewn rhannau ereill o'r deyrnas; yr oeddynt hefydyngynrych- ioliad na ellid ddisgwyl mewu nemawr i angladd o wahanol gylchoedd cym- deithas; ac oll, er y gwahaniaethau mawrion a'u hysgarent mewn llawer o ystyriaethau ereill, yn un yn eu dwfn barch i'r tywysog a'r gwr rnawr oedd wedi syrtlúo yn Israel, a llawer o honynt yn barod i eneinio â dagrau y llwch y gosodid ynddo weddillion un ydoedd mor anwyl yn eu golwg. Yr oedd y nifer dra lli- osog o goronblethi—y rhai oeddent wedi eu gwneud i fyny o'r blodeu mwyaf cain, ac yn y dull mwyaf chwaethus—yn dangos ymdrech brydferth i roddi dat- ganiad i deimladau nad yw iaith ond cyfrwng pur annigonol i roddi mynegiad iddynt; ac yn neillduol yr oedd yr agwedd ddifrifddwys a theimladol oedd ar y dorf fawr o " wyr bucheddol" oedd wedi dyfod ynghyd, yn dystiolaeth o'r fath werthfawrocaf i gymeriad Mr. Davies, ac yn dangos y chwithdod a'r dwfn alar a deimlid o'i golli. Dylai ei enw a'i hanes ef fod yn werthfawr gan y Cymry am amser maith, ac ni allai ei anrhydeddu lai na phrofì yn nerth ac yn ddyrchafiad i genedlaethau ydynt eto heb eu geni. 0 barch a chariad ato, ac er mwyn diogelu gwersi mawrion ei fywyd a'i gymeriad i'n cydwladwyr, ac yn enwedig ein pobl ieuainc ymhob man, fe ddymuna y Traethodydd gael gosod ei faen ar ei garnedd. Fel y rhan fwyaf o gymeriadau mawrion y byd, nid ydoedd yn ddyledus ond i fesur bychan am yr hyn ydoedd oddieithr i Dduw, ac iddo ei hunan. Yr oedd ei rieni mewn amgylchiadau tra chyffredin, ond yn bobl onest a diwyd, ac yn barchus iawn yngolwg eu cymdogion. Fe'i bendithiwyd drwyddynt a chyfansoddiad o ddirfawr nerth a gwydnwch. Er na wybu erioed am brinder, eto fe'i dygwyd i fyny rnewn amgylchiadau na oddefent foethusrwydd, ac a'i dysgent o'i ddydd- g2 -