Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD, CREFYDD YN BOHEMIA. Gwlad hyfryd yng nghanolbarth Ewrop yw Bohemia. Y mae yn ffinio â Germani, Poland, a Moravia; ac nid yw Hungari ymhell iawn oddiwrthi. Ynddi y ganwyd y Diwygwyr a'r Merthyron enwog Hnss a Jerome. Magodd wroniaid crefyddol lawer heblaw hwynt-hwy. Pe cawsai lonydd gan benadur- iaid gormesol a Phabau, diau y buasai yn un o'r gwledydd mwyaf goleuedig a dedwydd dan haul. Amgylchir hi gan fynyddoedd uchel o bob parth. Ym- ddengys fel pe buasai Awdwr natur am iddi fod yn deyrnas annibynol ar ei phen ei hun; ac felly yn wir y bu am gaurifoedd lawer, sef hyd y flwyddyn 1526, pryd yr unwyd hi âg Ymerodraeth Awstria. Addurnir hi â bryniau heirdd, cyfoethogir hi hefyd â dyffrynoedd breision, ac â fforestau godidog lawer. Ei phrif afonydd ydynt yr Elbe a'r Waldau; a'i phrif-ddinas yw Prague, yr hon a gynhwysa o gylch can mil o drigolion. Mae ei harwynebedd ychydig yn llai nag eiddo yr Alban, ond ei phreswylwyr yn lliosocach. Ymhlith y rhai hyn, ceir Germaniaid lawer, y rhai ydynt o ysbryd hoenus, ac yn glod- fawr fel celfyddydwyr a masnachwyr. Amaethir y tiroedd, fel rheol, gan epil yr hen frodorion. Pobl o duedd hynaws a diwyd yw y Bohemiaid ; eithr trist yw coflo, wedi yr holl ymdrechion a wnaed gan eu hynafìaid o blaid crefydd bur, eu bod gan mwyaf yn Babyddion ar hyn o bryd. Prin y gallasai ddigwydd yn wahanol, yn wyneb yr holl erlid fu yno drwy yr oesau ar dystion ffyddlawn y gwirionedd. Trwy dân, a chleddyf, ac alltudiaeth, ymroddai yr awdurdodau Pabaidd i'w deol yn llwyr o'r tir. Eithr er llwyddo yn helaeth, ni lwyddasant ynhollol. Cadwyd yno "weddill," yn ol etholedigaeth gras; ac o'r gweddill hwnnw, fel y mae yn hysbys ddigon, y deilliodd y Moraviaid heddychlawn a Christionogol, y rhai mewn amseroedd diweddar, a wnaethant gymaint tuag at ledaenu efengyl bur mewn gwahanol gyrion o'r ddaear. Gan fod hanes crefydd yn Bohemia, yn ymestyn yn ol am fll o flynyddoedd, ni cheir yma, o ddiffyg gofod ac amser, ond braslun o'r prif digwyddiadau yn unig. Cymerir golwg arnynt, mewn tri o wahanol gyfnodau fel y canlyn:— Cyfnod Cyntaf. o 894 11416. Cytunir yn gyffredin mai yn y nawfed ganrif y bu i Bohemia dderbyn gwir addysg efengylaidd gyntaf, a hynny drwy genhadon o blith y Groegiaid. Ond ni ellir bod yn sicr o'r flwyddyn y digwyddodd felly. Enwir 867 gan rai, a 894 gan ereill. Ond nid yw penderfynu hyn o gymaint pwys i'n hamcan ni yn bresennol. Eywbryd tua'r adeg yna, anfonwyd dau fynach duwiol, genedigol o Thessalonica, o Gaercystenyn i Bulgaria i bregethu yr efengyl; Cyril oedd enw y naill, a Methodius y llall. Yr oedd chwaer i frenin Bulgaria newydd fod yn aros yng Nghaercystenyn, ac ar ei dychweliad yn ol i'w gwlad, hi ddeisyfodd ar ei brawd wahodd cenhadon i ddyfod drosodd o'r ddinas honno. Wedi eu dyfod, rhoed iddynt groesaw parod gan y teulu brenhinol. Dywedir fod Methodius yn enwog fel arlunydd, ac iddo yno arddangos ei fedr drwy dynnu darlun o'r fara ddi- b2