Skip to main content

Y TRAETHODYDD, DARGANFYDDIADAU DIWEDDAR MEWN TRYDANIAETH. O flaen Prifysgol Edinburgh, pan yn areithio yn ddiweddar i'r myfyrwyr, sylwodd Syr William Thomson, yr hwn sydd yn awdurdod uchel ar faterion gwyddonol, fod teyrnasiad y gallu agerol ar ben, a bod nerth trydanol—elec- tricity—jri prysuro i gymeryd ei le. Ar ol gweled ei sylw ef darllenasom fod rhywun yn y Talaethau Unedig wedi cael allau fod yn bossibl troi gwres yn dry- dan yn y gell G-alfanaidd, a hynny heb i'w ardymheredd fod yn uwch na'r eiddo dwfr berwedig,—darganfyddiad mor bwysig, os gellir ei weithio allan yn llwyddiannus, ag a rydd derfyn ar deyrnasiad agerdd. Rhaid addef fod y gallu agerol wedi cyflawni gwasanaeth pwysig, ac wedi peri chwyldroad nerthol yn y byd masnachol a chymdeithasol. A dyma eto nerth arall aruthrol, sef trydan, yn cynnyg ei wasanaeth, ac yn bygwth dymchwelyd ei ragredegwyr. Os bu i Adda ac Efa weled y nerth hwn o eiddo natur yn ymsaethu yn fellt o'r cwmwl trydanol, ac yn taraw y ddaear yn rhy wle rhwng afonydd Eden, ni ddychmygasant y byddai i'w hiliogaeth, rhywbryd yn y dyfodol pell, gyrraedd llywodraeth arno, a dweud wrtho am eu gwasanaethu ddydd a nos, haf a gauaf, ar dir a môr. Dywedir i Moses ar Sinai fyned i'r tywyllwch lle yr ydoedd Duw; hynny yw, aeth i mewn i'r cwmwl trydanol, trwy yr hwn yr ymsaethai mellt fel llinynau o dân fflamllyd. A oedd rhywbeth gwyrthiol yn hyn, pellach na bod Duw wedi troi elfenau natur i wasanaeth neillduol ar y pryd ? A fuasem ymhell o'n lle wrth dybied mai cwmwl o oleuni trydanol oedd y golofn niwl a thân a arweiniai Israel yn yr anialwch ? Pa fodd bynnag am hyn, mae'n debyg y buasai yn fwy credadwy gan Moses y buasai dyn rhywbryd yn gallu symud Sinai oddiar ei wadnau a'i fwrw i'r Mor Öoch, nag y buasai iddo byth gyrraedd llywodraeth ar y mellt chwyrn a ymrwyfent trwy galon y cwmwl tew a'i hamgylchynai. Ond yr un peth o ran natur ydoedd mellt Sinai â'r trydan a ddanfonir i redeg yn yr oes hon ar hyd gwifrau i fynegi meddwl y naill ddyni'r llall, achyd ynnod trwy y telephôn i gario swn ei lais. Y mae y Proffeswr S. P. Thompson yn galw sylw at y ffaith nodedig fod yr enw sydd gan yr Arabiaid ar y torpedo, ra-ad, yn golygu mellten. Nerth o'r un natur yn hollol oedd yn cynyrchu taranau ar Sinai ag sydd yn achosi cliciadau yn ngwallt llaes boneddiges pan yn tynnu y crib trwyddo ar dywydd sych. Yr hyn ydyw taranau a mellt yn llaw Natur, dyna, erbyn hyn, ydyw trydan yn llaw dyn. "Wele y gallu a fu yn arswydo cenhedloedd y ddaear am oesau, yn peri i flew eu cernau sefyll, yn eu dal â dychryn marwolaeth, bellach, megis wedi ei ddofl o dan law dyn, ac wedi ei wisgo â dillad gwaith! Pa beth yw trydan ? Nid oes amheuaeth nad ydyw yn rhyw fath o nerth, ei fod yn llenwi pob man, yn amlygu ei hun mewn gwahanol ffurfìau—megis goleuni, gwres, tyniad, perthynasau fferyllol, symudiadau peirianyddol, &c. Ond pa beth ydyw ? Nid oes gan y byd gwyddonol un atebiad i'r cwestiwn hwn; nis gall wneyd dim ond tuchan ac ebychu uwçh ei ben, Gofynodd swyddog-