Skip to main content

Y TRAETHODYDD, RHAI SYLWADAU AR YSBRYDOLIAETH.* GAX Y PAUCH. JOHX HUGHES, D.D. Yn wtp yn deall na ddisgwylir i nii yn yr anerchiad hwn ail adrodd y prawfìon cyffredin o ysbrydoliaeth yr Ysgrythyrau Sanctaidd ; a llawer llai y gofynir i mi amddiífyn unrhyw olygiad ar eu hysbrydoliaeth, ueu gyuyg esboniad newydd aruo o'r eiddof fy huu. Byddai y cyntaf yn orchwyl hawdd. Mae y Bibl ei huu yn honi ddarfod ei roddi trwy ysbrydoliaeth Duw ; mae y prophwyd a'r apostol yn hawlio y ddawn ddwyfol iddyut eu hunain. Gesyd yr apostol ei sêl ar ysbrydoliaeth y prophwyd o"i íiaen: ac yr oedd yr apostol yn llefaru dau arweiniad yr Ysbryd Glan, yn ol addewid yr Arglwydd Iesu, yr hwn a ddywedodd wrth ei ddisgyblion ar fìn ei farwolaeth yr anfonai y Diddanydd atynt, i ddysgu iddynt yr holl bethau ag y cawsent yr hadau ohonynt yn ei ddysgeidiaeth Ef—i ddwyn ar gof iddynt y geiriau a ddywedodd wrthynt—ac i'w tywys i'r holl wirionedd. Yr oeddynt i dderbyn y Diddanydd, nid yn unig ar achlysurou, megis y dywedir y deuai gair yr Arglwydd ar adegau ueillduol at brophwydi yr Heu Destament: yr oedd yn hytrach yn feddiant arosol ganddynt. " Mae yn aros gyda chwi, ac ynoch y bydd Efe." Dichon y dadleua ambell un na ddylid rhoddi y pwys mwyaf ar dystiolaeth y Bibl am dano ei hun, neu ar air yr awdwr diweddarach am gymhwysderau ysgrifenwyr boreuach: ond dylid cofio mai hwynt-hwy yn unig oedd yn gwybod am y dylanwad nefol a weithredai arnyut. Gallwu ui, i ryw raddau, farnu gwerth a phwysfawredd cynwys eu hysgrifeniadau ; ond yr ysgrifenwyr eu hunain oedd me™ mantais i wybod am natur y dylanwad oedd yn estyn iddynt y fath bwysfawredd a gwerth. Ac er mai y rheol gyffredin ydyw nad yw geiriau uu am dano ei huu i ymddibyuu arnynt fel ar dystiolaeth arall am dano, eto, yn yr amgylchiad hwn, y mae cymeriad yr ysgrifeuwyr fel dyuion sanctaidd Duw, a rhagoriaeth anfesurol eu hysgrifeniadau, yn gyfryw ag i dueddu pob meddwl diragfaru i gysylltu y pwys mwyaf â'r oll a ddywedant am y dylanwad goruwch-naturiol a weithredai arnynt. Os yw eu hysbrydoliaeth yn ddirgelwch, buasai yr absenoldeb o hono yu ddirgelwch mwy. Y sawl oedd yn ymwybodol o'i ddylauwad yu unig a allent ddywedyd am dano. Ond nid oes angen i ni fyned yn y cyfeiriad hwu heddyw. Yr ydym oll, yn ddiameu, yn gynefìn â'r traethodau sydd yu gosod ysbrydol- iaeth fel ffaith tu hwnt i bob dadl; ac yr ydym oll yn credu y ffaith: yr ydym yn teimlo, yr wyf yn hyderu, yn fynych, fynych, fod Duw yn llefaru wrthym yn ngeiriau Dafydd ac Esaiah, Paul acloan; mae llygaid Duw, " adnabyddwr calonau pawb," yn eiu chwilio me^is oddiar ddalenau y Llyfr. Ond bêth yw ein hesboniad o'r ffaith—ein golygiadau am natur a chwmpas y dylanwad —nid wyf mewn mantais i wybod. Dichon fod rhai o honoch yn yr un sefyllfa â mi fy hun ; hyny yw, yn credu y ffaith o ysbrydoliaeth a'u holl galon ac a u holl ddeall, ond heb allu llunio esboniad cyflawn ar y ffaith; ac nid yn unig hyd yn * Traddodwyd cynwys yr ysgrif hon yn nghyfarfod y Gweinidogion Ymneillduol yn Liverpool.