Skip to main content

js- Y TRAETHODYDD. JOHN JONES 0 BAMOTfl. Yr oedd John Jones—neu fel y galwai efe ei hun, John Richard Jones, i'w wahaniaethu ei hun, niae yn debyg, oddiwrth y John Jonesiaid afrifed sydd yn Nghymru—yn ŵr o hynodrwydd mor fawr, a neillduol- rwydd mor arbenig, a rhai rhagoriaethau mor ddysglaer, fel nad ydym yn teimlo rhwymau i wneyd unrhyw esgusawd dros ei godi i sylw darllenwyr y Traethodydd. Mae y ffaith ei fod yn Gymro mor aiddgar, yn llenor da, ac yn fardd gwych, yn galw am i ni beidio ei anghofio fel un o enwogion ein cenedl. Ac y mae yr hynodrwydd mwy sydd yn perthyn iddo, fel arweinydd y blaid a sefydlydd yr enwad crefyddol a elwir y " Bedyddwyr Albanaidd" yn Nghymru, wedi ei wneyd yn offerynol i godi i sylw rai pynciau Duwinyddol, na ddylent syrthio i ebargofiant. Dyna y rheswm penaf a'n cymhellodd i roddi adgof uwch anghof i'w goffadwriaeth. Mae Mr. Jones wedi marw er ys saith mlynedd a thriugain i'r flwyddyn hon ; ac er fod amrai hen bobl sydd yn ei gofio eto yn fyw, nid ydyw cof y rhai henaf o honynt ond " cof plant," fel nad oes ganddynt ond ychydig i'w adrodd am dano. Dygwyddai fod lliaws o berthynasau agos yr ysgrifenydd yn perthyn i'w blaid, ac yn edmygwyr mawr o hono. Trwyddynt hwy, yn nyddiau ei fachgendod, pan oedd coffadwriaeth Mr. Jones eto yn lled wyrdd yn yr ardaloedd, daeth i wybod cryn lawer am dano, ac am ei ddaliadau crefyddol. Bu yn dadleu nid ychydig yn eu cylch, ac yn hyny cafodd fendith, trwy ddeffro ei feddwl ac addfedu ei farn, i wrthod rhai pethau yn bendant, ac i gymeradwyo pethau eraill. Yr ydym yn adrodd hyn o gyfrinach, i ddangos fod genym barch mawr i'w goffadwriaeth. Plwyf Llanuwchllyn, yn Sir Feirionydd, sydd yn meddu yr an- rhydedd o fod yn fangre genedigaeth Mr. Jones, fel llawer iawn o enwogion eraill. Dywedir fod y plwyf bychan hwn wedi cynnyrchu nifer mwy o ddynion enwog nag un plwyf arall yn Nghymru, pa fodd bynag y mae cyfrif am hyny. Tybia rhai fod purdeb awyr yr ardal, cynnyrch ei thir, ei bara ceirch, ei llaeth enwyn, pysgod ei llyn enwog, &c, o duedd naturiol i fagu ymenydd mawr. Meddylia eraill fod y ffaith fod yr ardal er ys dros gant a hanner o flynyddoedd dan weinidogaeth sefydlog, effro, a meddylgar yr hen Ymneillduwyr, a'r 1889. t