Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. P H IL 0 . YR IUDDEW YN MEDDWL FEL Y CENEDLOEDD. Un nôd arbenig ar ysgrifeniadau Philo, gŵr yn wir o Iuddew, nod hefyd sydd i'w gael mewn Iuddew arall mwy adnabyddus, Flavius Josephus, yw ei fod yn galv dysgeidiaeth grefyddol Iuddewig yn Philosophi. Yr oedd y gair eisoes wedi mawr newid ei ystyr a'i gymhwysiad er dyddiau Plato, nes agos gynnwys pob math o wybod- aeth,—grammadeg, cerddoriaeth, a hyd yn nod daearyddiaeth. Yr ydoedd felly ymhlith y Groegiaid eu hunain. Ond pan welir dysgerd- iaeth Iuddewig wedi ei sylfaenu ar yr Hen Destament yn dwyn yr enw hwn, enw a fathwyd mewn tiriogaeth mor wahanol ac i ddyben mor wahanol, gwelwn hefyd fod y cyfryw ddysgeidiaeth ei hun wedi myned dan gyfnewidiad mawr. O'i galw felly, rhan ydyw o wybodaeth y byd, ac amgen na " gwybodaeth y Sanctaidd "—y penaf fudd oedd o'r enwaed- iad, a'r rhagorfraint oedd i'r Iuddew. Megys y sonia yr apostol am " efengyl a.rall" Galatia, felly y soniai Hebreaid sobr Jerusalem am Iudd- ewiaeth arall Alexandria. Arall oedd, am fod y math perffaith wahanol o feddwl a gaed yn niwylliant Groeg wedi lefeinio meddyliau rhai a fynent, ar yr un pryd, fod yn ddysgyblion Moses. Y drych goreu i ganfod ffrwyth yr ymweithiad rhyfedd yma yw ysgrifeniadau Philo, a chais at ddesgrifio y peth a welir yn y drych hwnw yw yr erthygl hon. Ganwyd y gŵr nodedig hwn tuag ugain neu ddeng mlynedd ar hugain cyn Crist, a chan iddo farw mewn gwth o oedran, a gweled Rhufain, fe allasai gyfarfod yno â rhai o wŷr cyntaf yr Eglwys Grist- ionogol. Pe daliem ar chwedlau, arosem gyda'r ystoriau am ei gym- deithas yn y ddinas ymherodrol â'r Apostol Pedr, a'i dröedigaeth at Gristionogaeth, ynghyd a'i ymchweliad drachefn at grefydd ei dadau. Ond er cystal fuasai genym gredu y rhai hyn, erys ei ysgrifeniadau ef ei hun, sydd yn wag o ddim cyfeiriad at Gristionogaeth, yn dystiolaeth eglur yn eu herbyn. Iuddew ydoedd ; Iuddew hefyd o fath gwahanol hollol i'r hyn oedd Paul cyn ei dröedigaeth; Iuddew fel yr hyn, fe allai, oedd Apolos cyn cael agor iddo " ffordd Duw yn fanylach," neu awdwr y llythyr at yr Hebreaid cyn ei ddychweliad. 1889. t