Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

V TRAETHODYDD. GEIRIAU. Cyfieithiad o Ddarlith a draddodwyd ger bron y Menai Society gan y Proffeswr Trechmann, B.A.., Ph.D.* Y mae i Eiriau eu Genedigaeth, eu Cymdeithas, a'u Marwolaeth. Y mae geiriau yn cael eu Geni mewn dwy fíordd; yn gyntaf, trwy greadigaeth newydd, neu newyddeiriaeth (neologism of luords); yn ail, trwy greadigaethau newyddion o ystyr (neologisms qf meaningsj. Pan y mae iaith yn ffurfio geiriau newyddion y mae yn gwneyd hyny o hen ddefnyddiau; y mae naill ai yn benthyca oddiar ieithoedd eraill, byw neu farw, neu y mae yn fturfio geiriau newyddion o eiriau sydd eisoes yn bod, trwy darddiad, hyny yw, trwy ychwanegu blaenddodiaid neu olddodiaid, neu trwy gyfuno dau neu ychwaneg o eiriau mewn dull cyfansawdd. Pan y mae iaith yn ffurtìo ystyron newyddion, y mae yn rhoddi i eiriau sydd eisoes yn bod swyddogaetb.au oedd hyd hyny yn ddyeithr iddynt. Heb, yn ymddangosiadol, ychwanegu at yr eirlechres, y mae, mewn gwirionedd, yn gwneyd o'r geiriau hyny eiriau newydd- ìon. Gyda threfnidedd ar seiniau, y mae yn rhoddi i'r un cynnulliad o seiniau wahanol swyddogaethau. Fel hyn pan ddywedwn am ddyn ei fod yn " bat da " neu yn "fiist-rate oar" yr ydym yn ffurfio newydd- iaethau o ystyr; yr ydym yn rhoddi i'r geiriau " bat" ac " oar," ystyron oeddynt hyd hyny yn ddyeithr iddynt. Mae yn debyg mai un o'r newyddiaethau mwyaf diweddaryn y wlad hon ydyw "boycottio." Yn gyffredin y mae geiriau yn cadw eu hystyron; y maent yn dal at y gwrthddrychau neu y syniadau a ddynodamt, ac y mae y berthynas rhwng yr arwydd a'r peth a arwyddoceir yn aros heb ei newid. Felly, er gwaethaf cyfnewidiadau mewn sain sydd wedi cymeryd lle yn eu ffurf- lau, y mae niferi o eiriau wedi dyfod i lawr yn Saesoneg o'r Anglo- Saxon, neu o'r Lladiu trwy y Ffrancaeg, gyda'r ystyron oedd iddynt yn wreiddiol; ac wrth olrhain llawer o eiriau o'r fath yn ol i'r iaith Indo- Y mae Dr. Trechmann, wedi tymmor o wasanaeth llwyddiannus yn Ngholeg y linfysçol, Bangor, fel Darlithydd ar Ieithoedd Diweddar, yn awr ar ei daith i Aws- i û'o íod yn Broffeswr Ieithoedd Diweddar yn Mhrifysgol Sydney. AÖ89. G