Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. MB. HENRY RICHARD. Mae y Cymry ymhob man bellach wedi clywed am farwolaeth ein cydwladwr parchus ac anwyl, yr Aelod Seneddol dros Ferthyr Tydfil, ac anhawdd meddwl fod cymaint ag un nad ydyw yn teimlo fod tywys- og a gŵr mawr wedi syrthio yn ein Hisrael. Yr oedd efe yn adna- byddus iawn hefyd i gylch llawer eangach na'i genedl, ac anrhydeddid ef gan íiloedd fel gŵr da a gwasanaethgar; fel Cymro goleuedig a gwlad- garol; fel cyfaill cynhes i heddwch, iawnder, ac addysg; tel amddiffyn- ydd pybyr i'r egwyddor fawr o gydraddoldeb crefyddol; ac yn neilldu- ol, ac uwchlaw y cwbl, fel dysgybl pur a ffyddlawn i'r Arglwydd Iesu Grist. Y mae wedi myned i orphwys yn llawn o ddyddiau, ac yn llawn o anrhydedd. Yr ydym oll yn wanach o'i golli. Ond fe fydd i'w enw fyw am dymmor maith, a bydd ei lafur a'i ddylanwad, ynghyd a'i ysbryd rhagorol, yn drysor i'w genedl a fawr werthfawroga, ac am ddyddiau lawer yn nerth i'r ymdrech yn mhlaid pob achosion da trwy y deyrnas oll. Prin y mae eisieu hysbysu ei fod yn fab i'r Parch. Ebenezer Eichard o Dregaron. Yn "Myw)d y Parch. Ebenezer Eichard gan ei Feibion, E. W. Eichard a Henry Eichard," a gyhoeddwyd yn 1839, fe'n hys- bysir mai Henry Eichard oedd enw tad y gŵr da hwnw, a'i fod ef "yn ŵr hynod dduwiol a dichlynaidd yn ei ymarweddiad. Bu yn bregeth- wr defnyddiol ymhlith y Trefnyddion Calfinaidd am driugain mlynedd." Am Mr. Ebenezer Eichard, fe fu ei fuchedd sanctaidd ef, ynghyd a'i lafur mawr gyda phregethu yr efengyl, gweici yr ordinhadau, cyn- northwyo ymlaen waith yr Ysgol Sabbothol, ymgymeryd â holl ofal yr achos mawr yn y gwahanol ardaloedd a'r Cyfarfodydd Misol a'r Cym- deithasfaoedd, yn fendith i'w genedl a brofodd o werth anmhrisiadwy. Yr oedd efe yn un o'r tri ar ddeg o bregethwyr y Methodistiaid a ordein- iwyd gyntaf yn y Deheudir i holl waith y weinidogaeth. Cymerodd yr ordeiniad hwnw le yn Nghymdeithasfa Llandeilo, Awst 8fed, 1811. Yr ydoedd yr amgylchiad yn un tra phwysig. Teimlai llawer fod y Corff o Fethodistiaid yn rhyfygu yn bechadurus wrth feddwl am neillduo y dynion yr oedd Duw wedi eu harddel mor ryfeddol, i'r holl waith. A hyd yn nod wedi ordeiniad Mr. Ebenezer Eichard, fe farn- 1888. * 2 f