Skip to main content

Y TRAETHODYDI). Y DDADL AR DARDDIAD YR ENAID. WRTH alw sylw ein darllenwyr at y ddadl ar darddiad yr enaid, doeth ynora, er gochel eu gwg, ydyw eu sicrhau ar y dechreu nad oes ynom y bwriad lleiaf i fyned i mewn i'w manylion, ac i adgyfodi pob rhyw syniad a draethwyd arni. Dichon na chyfrifid ymdriniaeth o'r fath yn ddira gwell na choll amser, yn enwedigol felly ar adcg mor brysur ac ymarferol—adeg ag y mae mwy na digon o faterion brwd mewn cysyllt- iad â buddiannau presennol plant dynion yn hawlio sylw pob meddwl effro. Pan y mae cwestiwn y tir a phwnc y degwm, ymreolaeth Wyddelig a Chymreig, addysg ganolraddol, dadgysylltiad yr Eglwys AYladol, a rhagolygon dysglaer " Cymru Fydd," yn cael eu trafod ar bob aelwyd, ymhob pobtŷ, a phob gefail gof, breuddwyd ofer fyddai tybio fod yn bosibl creu dyddordeb mewn un meddwl o fil yn y cyfryw gwestiynau â Pre-existianism, Traducianism, a Creationism. Mae y term- au eu hunain yn anhygar a diserch i edrych arnynt; a phe troid hwynt i'r Gymraeg, nid llawer a ennillent mewn prydferthwch. Pwy a ŵyr nad yw y drychfeddyliau a gynnrychiolant yr un mor anhawddgar ac ystyfnig 1 Nid ydym gan hyny am ormesu ar dymher dda ein darllen- wyr trwy eu cadw yn hir mewn cwmni o'r fath. Yn unig goddefer i m sylwi y buont gynt yn gymdeithion cu gan rai Cymry llenorol. Buasai erthygl ar ddeilliad yr enaid yn cael ei darllen gyda dyhewyd hanner can' mlynedd yn ol: braidd nad oedd y pryd hyny yn gwestiwn "Hosgawl.'' Cyfrifid ef yn un tra phwysig gan Arminiaid a Chalfiniaid yr adeg, am y tybid fod yr athrawiaeth uniongred ar y pechod gwreidd- iol mewn cysylltiad bywydol âg ef; a mawr ydadleu fyddai yn ei gylch w du dalenau rhai o gyfnodolion yr oes. Yr oedd prif oleuadau duv/- myddol pob cymydogaeth wedi gwneyd eu meddyliau i fyny arno ; yr oeddynt wedi cael alJan y dirgelwch ; a phrawf o feddwl anniwylliedig, ar ol yr oes, oedd amddifadrwydd o olygiadau sicr parth deilliad yr ysbryd antarwol mewn dyn. Mae yn wir nad oedd Awstin yn meddu syuiadau cwbl benderfynol arno, ac nad yw yr ychydig a ddywed Calvin Jn ei Institutio yn dangos ei fod wedi sylweddoli ei bwysigrwydd : ond pa bwyg gy^^ yn nyny i Amseroedd yr anwybodaeth oedd eu hamser- oedd hwy. Yr oedd ambell Arminiad a Chalfiniad yn Nghymru ar l er^eu y ganrif, yn eu tyb eu hunain wedi ei feistroli a'i ddy- ysoyddu, ac yn traethu eu llen arno fel oraclau.