Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHOD Y 1) J). WILLIAM MORLEY PUNSHON. The Life of William Morley Punshon, Ll.D., by Frederic W. Macdonald, Professor of Theology, Handsworth College, Birmingham, Author of " Fletcher of Madeley," and Chapters XI. to XV. by A. H. Eeynar, M.A., Professor of Modern Languages and English Literature, Victoria University, Coburg, Ontario. With Etched Portrait by Manesse. London : Hodder and Stoughton. 1887. Lectures by the Eev. W. Morley Punshon, Ll.D. London: Woolmer, 2, Castle Street, City Eoad. 1882. Sermons by the Eev. W. Morley Punshon, Ll.D. London : Woolmer, 2, Castle Street, City Eoad. 2 Volumes. 1882—4. 1. Dr. Punshon, ond odid, oedd yr ymadroddwr mwyaf hyawdl a phobl- ogaidd a fu yn perthyn i'r Cyfundeb Wesleyaidd erioed, a diau nad anghymeradwy gan ddarllenwyr y TrAETHODYDD fyddai byrolygiad ar hanes ei fywyd a theithi ei gymeriad, seiliedig ar y JBywgraffiad rhag- orol o hono o waith Macdonald a Reynar, sydd newydd ymddangos drwy y wasg. Fel y gwelir oddiwrth deitl y gyfrol, y mae pump o'r pen- nodau sydd ynddi, yn rhoddi hanes y gwrthddrych yn ystod ei arosiad yn Canada, wedi cael eu parotoi gan Professor Reynar. Edrychir arno ef yn America fel gŵr galluog a dysgedig, cymhwys at y gorchwyl hwn ar lawer ystyr; ond dichon fod y bei thynas agos oedd rhyngddo â Dr. Punshon yn llesteirio iddo deimlo mor rydd ag y dymunasai wrth íeddwl am adrodd hanes ei dad yn nghyfraith. Modd bynag, dyfyn- ladau o Ddyddiadur y Doctor enwog sydd yn gwneyd i fyny swm y pennodau hyn, ynghyd ag ychydig eiriau yma ac acw i'w cysylltu ynghyd. A dichon mai dyma yr unig ran o'r gyfrol sydd yn anfodd- aol Y mae pob brawddeg a ysgrifenodd Dr. Punshon yn werth ei aUen; ond y fath oedd ei syniadau isel am dano ei hun, a chynnildeb ei gyieiriadau at ddim ag y byddai ganddo ef ei hun law ynddo, fel na ff >vf f ^yfyniadau o'i Ddyddiadur ond dychymyg egwan ac anmher- arth iawn o'i deithiau meithion, ei lafur enfawr, a'r gwaith mawr a gogoneddus a wnaed trwyddo yn myd y Gorllewin. Y pum' mlynedd reuhodd yn Canada, yn ein bryd ni, oedd cyfnod pwysicaf a dys- ^IRRR 6Ì °es' ^r oe^^ ^6^^ ^0*0 e* ac ^r acnos a wasanaethai, fel y