Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRiETHOD Y I) I). ARGLWYDD SELBORNE YN NGHYMRU. Mae yn amlwg fod dechreuad y diwedd wedi dyfod, ac y mae ein cyd- wladwyr parchus o'r Eglwys Sefydledig yn deffro gyda dirfawr yni i geisio cadw draw y trychineb ag y maent bellach er ys cryn amser wedi bod yn ei ofni. Gynt yr oeddynt fel yn tybied eu bod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw wrth erlid yn ddidrugaredd y rhai a ddewisent wasanaethu eu Creawdwr y tu allan i'w cymundeb hwy. Pan wnaed yn anmhosibl iddynt fyned ymlaen ymhellach yn y ffordd hono, ymfoddlonent ar eu dirmygu yn anfesurol, a gwneyd ymhob dull ag y gallent feddwl am dano gymaint o ddrwg iddynt ag oedd yn bosibl. Fel y deffröent i fesur i ymdeimlo â'u rhwymedigaeth i geisio gwneyd ychydig les i eneidiau y bobl, dechreuasant efelychu yn ddyfal ddulliau yr Ymneillduwyr o weithredu, er iddynt am lawer o flynydd- oedd cyn hyny fod yn eu gwatwar ac yn eu darostwng fel pethau oeddent nid yn unig yn ffol, ond hefyd yn anfad ddrygionus. Erbyn hyn mae yr Ysgol Sabbothol, a'r cyfarfodydd eglwysig, a'r cyfarfodydd nos yn sefydliadau yn eu plith hwythau. Y maent hefyd wedi darganfod y rhaid darpar moddion crefyddol i'r Cymry yn eu hiaith eu hunain, ac y mae gwasanaeth lleygwyr yn rhywbeth sydd i'w werthfawrogi. Yr oedd yr Anghydffurfwyr, bid siwr, yn byw dan "Ddeddf Goddefiad," ac wedi bod yn cael eu hannos a'u herlid am lawer o flynyddoedd, yr oedd yn rhywbeth iddynt gael hamdden i wasanaethu Duw a cheisio gwneyd daioni i'w cyd-ddynion hyd yn nod dan " oddefiad," Ond yr oedd dynion craff, ie o'r dechreuad, yn gweled mai pen draw "goddefiad" fyddai cydraddoldeb. A thra yr oedd Ymneillduwyr Cymru yn dawel yn llanw eu gwlad â gwybodaeth o Dduw, ac yn dwyn y beichiau trymion a osodid arnynt ynglŷn â threfniant Eglwysig ag oedd yn dyfod i'w deimlo fwyfwy " yn faich oedd yn anrhaith ei ddwyn," ac ynglŷn â hyny yn barhaus yn cael eu dirmygu a'u gwaradwyddo,—yr oedd " rhesymeg amgylchiadau " yn eu dwyn i ymofyn, Pa hawl oedd gan y naill bryfyn i " oddef " i'w gyd-bryfyn addoli Duw y nefoedd yn y ffordd a ymddangosai fwyaf cymeradwy i'w gydwybod 1 Ac yr oedd hyny hefyd yn arwain yn anocheladwy i gwestiwn arall: Pa reswm all fod mewn gorfodi yr hoil boblogaeth i gynnal, yn y ffurf o grefydd gen- edlaethol, yr hyn nad oes ond dyrnaid o'r trigolion, a'r rhai hyny y rhai cyfoethocaf yn yr holl wlad, yn malio am dani; a hyny hefyd tra y mae y 1888. a