Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. Y PEDAIR GWYRTH A GWYDDONIAETH. Dechreuad mater, dechreuad bywyd, dechreuad dyn, ac ymgnawd- oliad y Gair, ydynt y pedair gwyrth, neu y pedwar prif ddygwyddiad goruwchnaturiol yn hanes y bydysawd. Gellir dyweyd fod yr holl wyrthiau eraill,—megys cytìwyniad dadguddiad llefaredig i ddyn, neu ymyriad goruwchnaturiol â deddfau natur, yn dal cysylitiad â rhyw un o'r pedair gwyrth a nodwyd. O ganlyniad gellir edryuh arnynt fel sylfeini yr holl ddadguddiad o Dduw, yn ogystal ag fel camrau mawrion ac esgynol y dadguddiad hwnw. Pan y disgynwn i lawr at egwyddorion cyntaf y dadguddiad a roddodd Duw o hono ei hun mewn natur, daw cyfoeth ei feddwl i'r golwg, nid yn lliosogrwydd yr egwydd- orion hyny, ond yn ei allu i amrywio un egwyddor wreiddiol a sylfaen- ol i wahanol ffurfiau. Y mae yr holl fydysawd materol o'r un cynllun; un drychfeddwl sydd i bob gronyn materol. Ceir yr ail ddrychfeddwl yn y deyrnas fywydol, a hwnw yn hollol newydd. Nid yr un deddfau sydd yn llywodraethu y materol a'r bywydol. Yn nghorff y llysieuyn llywodraethir y gronynau materol gan egwyddor newydd anfaterol, ac uwchlaw mater, fel ag i beri iddynt ymddangos mewn ffurf newydd, a hollol anadnabyddus i'r anianydd yn y byd materol. Wrth wraidd y greadigaeth anifeilaidd drachefn, canfyddir pedwar drychfeddwl cych- wynol yn y pedwar dosbarth o greaduriaid, y ihai a elwir y meddalog- ion, y rhinogion, y cymmalogion, a'r cefnesgyrnogion. Dyma y trydydd drychfeddwl mawr, yr hwn, fel y gwelir, sydd yn ymganghenu i bedwar. Ceir y pedwerydd drychfeddwl cychwynol mewn dyn, yn yr hwn yr unwyd rhagoriaethau y byd elfenol, bywydol, a'r byd moesol ac ysbrydol. Ond yn ymgnawdoliad y Gair, unwyd natur dyn â'r Duwdod. Dyma y pummed drychfeddwl, a phen yr ysgol. Pa beth ydyw y ffaith fawr o ddadblygiad? Hanes Duw yn uno ei feddyl- ddrychau gwreiddiol â'u gilydd, fel dolenau mewn cadwen, yr hon sydd yn rhedeg i fyny oddiwrth y materol at ei natur Ef ei hun. Unwyd y drychfeddwl cyntaf am fater—cynnyrch cyntaf y Duwdod—â'r ail ddrychfeddwl, sef bywyd; egwyddor yn adeiladu tŷ iddi ei hun, os gallwn ddyweyd felly, o elfenau y greadigaeth faterol. Yn y man dyna fywyd yn gweled trwy ffenestri materol—y llygaid, gogoniant y greadigaeth anifeilaidd; yn anadlu; yn deall trwy ymweithiad gron- ynau materol yr ymenydd; yn caru ac yn ofni. Mewn dyn, unwyd y 1887. t