Skip to main content

Y TRAETHODYDD. DARLITHIAU Y PARCH. D. CHaBLBS DAVIES, M.A., AR GRISTíONOGAETH. AIL GYFRES. IV. PERTHYNAS CRISTIONOGAETH A'R YSGRYTHYR. Yn ei Ragymadrodd i'w lyfr ar Natural Beligion, ysgrifenodd yr awdwr, ProfFeswr Seeley, y ddwy frawddeg a ganlyn :—" I have always felt, and feel now as much as ever, that my ideas are Christian:" " But I may say in ODe word that my ideas are Biblical." Yn ei waith dengys ei fod yn ystyried mai yr un rhai oedd syniadau Cristionogol a syniad- au Biblaidd. Yr ydym yn hollol gytuno â'i olygiad, gyda hyn o ych- wanegiad,—ein bod yn gallu gweled llawer mwy o'r gwirionedd sydd ynddo oddiar safle Üdwyfol, nag yr oedd ef yn alluog i'w weled oddiar safìe ddynol. Pa mor bell y mae ei syniadau ef yn Gristionogol ac yn Fiblaidd, sydd bwnc arall. I'r un graddau yr oeddynt y naill a'r llall. Eto mae yn amlwg nad ydyw y geiriau " Cristionogol" a " Biblaidd " yn gyfystyr. Y mae yr un gwahaniaeth rhyngddynt ag sydd rhwng crefydd a chyfrol. Darnodiad byr o'r grefydd a fyddai, ei bod yn un ag y mae Person yr Arglwydd Iesu yn fywyd yr athrawiaeth a ddysgir ynddi, yr addoliad a gyflwynir ynddi, a'r ymddygiad a orchymynir ynddi. Cynnwysa y gyfrol nifer o lyfrau bychain wedi eu hysgrifenu mewn gwahanol oesau, gan wahanol bersonau, ond o'r un genedl (gydag un eithriad) ; rhai o honynt cyn ymddangosiad Crist, yn brophwydol- iaethol am dano, a rhai ar ol ei ymddangosiad, yn hanesiol ac yn athraw- iaethol am dano. Yr oedd y grefydd yn bod yn ei ffurf gyntaf cyn i lyfrau Moses gael eu hysgrifenu. Ac yr oedd wedi ei sefydlu a'i lled- aenu dros Ymherodraeth Rhufain cyn yr ysgrifenwyd y Testament Newydd. Nid y llyfr a roddodd fôd i'r grefydd; nid ydyw y grefydd Nodiad.—Terfyna y Ddarlith hon Gyfres y " Darlithiau ar Gristionogaeth " mewn cysylltiad â llyfr Proffeswr Seeley. Yn y Gyfres nesaf trinir y pwnc o safle daliadau Comte.—E. Vincent Evans. 1887 a