Skip to main content

Y TRAETHODYDD. CANMLWYDDIANT YSGOLION SABBOTHOL CYMUU. CYCHWYNIAD A CHYNNYDD YR YSGOLION. Mewn erthygl ar Dr. Livingstone, yn fuan ar ol ei farwolaeth, dy- wedai Syr Bartle Frere ddirgelwch am dano gyda golwg ar amcan ei daith ddiweddaf yn 1865, nad oedd yn hysbys, dybygid, ar y pryd, i neb ond efe. í mae yn gofus i'r darllenydd, o bosibl, ddarfod i'r doctor ar y d.aith hono alw yn Bombay ar ei ffordd i Affrica. Wedi glanio yno, bu o 1865 hyd 1872 heb i neb glywed gair am dano, a'r dybiaeth yn cynnyddu o hyd y rhaid ei fod wecìi syrthio yn aberth i un o'r myrdd peryglon â pha rai yr ydoedd yn rhwym o fod yn wastadol wedi ei gylchynu. Ond er syndod a diolchgarwch, daeth y newydd i'r wlad fod ein cydwladwr Stanley, y pryd hwnw gohebydd neillduol y Neiu Yorh Herald, wedi dyfod o hyd iddo yn Ujiji, a'i fod ar gychwyn drachefn i wynebu yr un peryglon ag y buasai ynddynt yn ystod y saith mlynedd blaenorol. Cyn peu blwyddyn yr ydoedd un o glefydon marwol y wlad wedi ymosod arno a chael yr oruchafiaeth, er pob cadernid cyfansoddiad a gwroldeb ysbryd; a dygwyd ei gorff yr holl ffordd o'r canolbarth i'r glanau, gan ei weision tfyddlawn, ac oddiyno i Lundain, i orphwys yn dawel gyda gwroniaid glewaf ac enwocaf ein gwlad, yn mynachlog Westminster, hyd ganiad yr udgorn diweddaf. Ond dyma'r dirgelwch. Dywed Syr Bartle fòd pobl yn cwyno y pryd hwnw ei fod wedi cychwyn ar y daith hono heb ddyweyd wrth y byd pa beth oedd ganddo mewn golwg drwyddi, a'u bocì am hyny yn analluog i farnu pa mor bell yr ydoedd wedi cwblhâu yr hyn a fwriad- ai. Pan yn aros gyda Syr Bartle yn Bombay, yn 1865, gofynodd ei westwr iddo pa beth oedd cynllun ei weithrediadau. Dywedodd y Dr. wrtho ei fod o bwrpas wedi peidio a chyhoeddi ei gynlluniau cyn gadael Lloegr, gan ei fod yn sicr y byddai raid iddo gilio o sylw Ewrop am Jawer o fisoedd ynghyd, a'i fod yn bosibl wedi iddo gilio i galon Affrica y gwneid ymdrechion i'w gynnorthwyo, ond ei fod ef yn 1885. B