Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. DARLITHIAU Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., AR GRISTIONOGAETH. AIL GYFRES. PERTHYNAS CRISTIONOGAETH A CHREFYDD.* Oddeutu dwy flynedd yn ol cyhoeddwyd llyfr yn yr iaith Saesoneg, o eiddo Proffeswr Seeley, awdwr Ecce Homo, dan y teitl Natural Echgion, yr hwn a dderbyniodd gryn lawer o sylw, ac nid mwy nag yr haedd- ai. Yr arwyddair ar ddalen gyntaf y llyfr ydyw y geiriau hyny o eiddo Wordsworth: "We live by admiration." Ond fel y mae yn wybyddus i ddarllenwyr y bardd, yr hyn a ysgrifenodd ef yn y pedwer- ydd llyfr o'r Excursion ydoedd : We live by admiration, hope, and love, And even as these are well and wisely fixei, In dignity of being we ascend. Gan na fuasai y frawddeg gyfan yn ateb i amcan y gwaith, y mae awdwr Natural Religion yn ei darnio, ac yn gadael allan ran bwysig o'r meddwl. Dywed Wordsworth ein bod yn byw nid trwy edmygedd yn unig, ond trwy obaith a chariad hefyd, ac ymhellach ein bod yn esgyn mewn urddas trwy feithrin y teimladau hyny, yn unig pan y sefydlir hwynt yn dda ac yn ddoeth, hyny ydyw, pan y sefydlir hwynt ar wrthddrychau teilwng. Pe dyfynasai Proffeswr Seeley yr oll, ni a gawsem feddwl y bardd yn llawn; ond buasai hyny yn dangos i ni y gwahaniaeth rhwng gwirionedd y dyfyniad ac amcan y llyfr y gosodasid ef yn arwyddair iddo. Nid pregethwyr yn unig, fel y gwelir, sydd yn * Nodiab. Dechreua y ddariith hon yr ail gyfres o ddarlithian y Parch. D. Charles Davies, M.A., ar Gristionogaeth. Traddodwyd hi yn Nghapel. jlewin Newydd ar yr 2íed o Mai, 1884. Fel y gwelir, symuda y darlithydd oddiwrth Mr. Herbert Spencer a 1 Data of JEthics i drafod Proffeswr Seeley a'i Natural Réligion.—E. Vikcent Evans. 1885. i