Skip to main content

Ä V 3 ó' Y TRAETHOÜYDD. AGORIAD COLEG GOGLEDD CYMRU. Y MAE genym fel cenedl achos i ddwfn lawenhâu yn yr olwg ar y manteision addysgawl tra gwerthfawr sydd erbyn hyn wedi eu gosod o fewn ein cyrhaedd. Yr ydym wedi arfer grwgnach cryn lawer o herwydd ein hesgeuluso yn gymaint gan y Llywodraeth yn hyn, tra yr oedd rhanau eraill o'r deyrnas, a rhai o honynt ar bwys y cyllid cyhoeddus ag yr oeddym ni yn gwneyd ein rhan er ei gynnyrchu, yn cael eu gwala a'u gweddill o'r cyfleusderau goreu i ddiwyllio meddwl eu pobl ieuainc, ac felly i roddi iddynt y parotöad goreu i wynebu ar ymdrech einioes. Ond mae yn amlwg fod ein hachosion grwgnach yn diflanu y naill ar ol y llall, ac ymhen ychydig amser na fydd Cymru fechan, yn y mater o addysg, yn ol i'r un ran o'r deyrnas gyfunol. Y'r unig anflawd ydyw na fuasai y mesur o Addysg Ganolraddol—mesur ag y deallir ei fod wedi ei barotoi er ys dros ddwy flynedd—wedi ei hen wneyd yn ddeddf, a bellach yn cymhwyso nifer mawr o'n hieuenctyd tirion i fwynhâu y manteision uwch sydd yn awr yn cael eu gosod mor helaeth o'u blaen. Er hyny y mae hanesyddiaeth yn yr achos pwysig hwn yn cymeryd camrau mor freision yn ein plith fel y mae braidd yn anhawdd i ni synied mor fawr ydyw y cyfnewidiadau sydd yn cymeryd lle. Yn 1843, pan anfonodd y diweddar Syr Hugh Owen ei lythyr enwog at ei gydwladwyr yn galw eu sylw at y manteision a gynnygid i sefydlu ysgolion elfenol ar egwyddorion y British and Foreign School Society, nid oedd nemawr ysgol ddyddiol o fewn y Dywysogaeth lle y gallesid rhoddi yr hyffbrddiad symlaf i blant, oddieithr mewn cysylltiad â'r National School Society, cymdeithas ag oedd wedi ei sefydlu yn arbenig i'r dyben o " addysgu plant y tlodion yn egwyddorion Eglwys Loegr," ac felly yn dra anaddas i gyfarfod âg amgylchiadau Cymru, lle yr oedd corff mawr y boblogaeth yn Ymneill- duwyr. Ond yn awr y mae ein gwlad wedi ei gorchuddio âg ysgolion elfenol o'r fath oreu, ac ni ymyrir yn yr un o honynt âg unrhyw aigyhoeddiadau ar dir cydwybod a allant fod yn gysegredig yn ngolwg unrhyw rieni a ddymuno anfon eu plant iddynt. Ac wedi i ni fod am flynyddoedd lawer yn dyheu am Goleg cenedlaethol—ac nid yn anfyn- 1885. A