Skip to main content

Y TRAETHODYDD. ATHRAWIAETH Y DEUDDEO APOSTOL. Y MAE Philotheos Bryennios, gẃr dysgedig o Eglwys Groeg, yr hwn sydd yn awr yn Archesgob Nicomedia, wedi bod mor ffodus a tharo ar ysgrif na all fod o awduriaeth diweddarach na thua dechreu yr ail ganrif, ac y mae y byd Cristionogol yn bresennol yn ei hastudio gyda dyddordeb mawr. Yn Nghaercystenyn y mae hen lyfrgell enwog a adwaenir fel Llyfrgell y Bedd Sanctaidd, perthynol i Batriarch Jerusalem. O biryd i bryd yr oedd llawer o ysgolheigion enwog wedi bod yn ei chwilio, ond heb wneyd un darganfyddiad gwerth son am dano. Ond yn 1875 fe gyhoeddodd Bryernios argraffiad newydd, a llawer cyflawnach nag oedd yn ein meddiant yn flaenorol, o Epistol Clement o Rufain at Eglwys y Corinthiaid, allan o ysgrif a gawsai yn y llyfrgell hono. Yn y rhagymadrodd i'r argraffiad hwnw rhydd hanes yr ysgriflyfr. Cyfrol fechan wythplyg ydyw o 120 o ddalenau, yn 19 wrth 15 centimetres mewn hyd a lled, ac o lawysgrif un Leo, ac wedi ei dyddio Mehefin 11, 6564 o gyfnod Caercystenyn, yr hwn sydd yn cyfateb i o.c. 1056. Mae yn cynnwys: (1) Crynodeb Ioan Aurenau o'r Hen Destament; (2) Epistol Barnabas; (3) Epistol cyntaf Clement at y Corinthiaid; (4) Ýr Ail Epistol, fel ei gelwir, a briodolir hefyd i Clement; (5) Athrawiaeth y Deuddeg Apostol; (6) Epistol (ffugiol) Mair o Cassobola at Ignatius ; a (7) Deuddeg o Epistolau a briodolir i Ignatius ei hun. Fe roddir gwerth mawr ar yr argraffiad o Epistolau Clement, yr hwn sydd wedi ei olygu yn dra medrus, ac yn dangos ar ran Bryennios ddysgeidiaeth neillduol a chydnabyddiaeth helaeth â llenyddiaeth dduwinyddol Ewrop. Ac mae yr ychwanegiadau a gaed yn y copi hwn yn gwneyd Llythyr Clement—oblegid nid oes ond ychydig bwys yn yr hyn a elwir yr Ail Lythyr, am na chredir yn ei ddilysrwydd —yn llawer gwerthfawrocach. Yr oedd y cyfnod o ddinystr Jerusalem, o.c. 70, hyd farwolaeth Justin Ferthyr, o.c. 120, yn gorwedd dan gryn dywyllwch; ac y mae Epistol Clement, yn y ffurf gyflawn y galluogwyd Bryennios i'w gyhoeddi, yn rhoddi cyn- northwy rhagorol i weled pa fodd yr oedd yr Eglwys Gristionogol y 1884. 2 b